7. Dadl Plaid Cymru: Perfformiad y GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 29 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:17, 29 Ionawr 2020

Mae nifer ohonon ni, wrth gwrs, yn ingol ymwybodol ym mis Mehefin y bydd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn cyrraedd carreg filltir anffodus eithriadol yn y ffaith y bydd wedi bod mewn mesurau arbennig am bum mlynedd. Nawr, dyna ichi hyd tymor Cynulliad cyfan o fesurau arbennig, sydd, dwi'n meddwl, yn rhywbeth efallai sydd yn tanlinellu pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa honno. Ac mae rhywun yn ffeindio'i hun yn gofyn i'w hunan, 'Beth mae mesurau arbennig wedi'u cyflawni o safbwynt Betsi Cadwaladr?' Beth yw pwynt y mesurau arbennig yma os nad ydyn ni'n gweld, ar ôl pum mlynedd, y cynnydd y byddai rhywun yn gobeithio ei weld a byddai rhywun yn teimlo sy'n deg inni ddisgwyl ei weld? Yn wir, mae mesurau arbennig wedi mynd yn rhyw fath o norm i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr erbyn hyn, ac ambell i un, â thafod yn y boch, yn gofyn, 'Oes yna ryw extra special measures y byddem ni'n gallu eu gosod o safbwynt y bwrdd?' Mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, er eu bod nhw yn y cyfnod hynny â rheolaeth uniongyrchol dros y bwrdd yn barod iawn, yn rhy aml o lawer, i wadu unrhyw gyfrifoldeb, a dyw hynny, wrth gwrs, ddim yn dderbyniol chwaith.

Felly, pa wahaniaeth mae pum mlynedd wedi'i wneud? Wel, mi ddywedaf i wrthych chi: yn ystod y cyfnod lle mae'r Llywodraeth, i bob pwrpas, wedi bod â goruchwyliaeth uniongyrchol dros y bwrdd, rŷn ni wedi gweld ceisio preifateiddio gwasanaethau dialysis yn Wrecsam ac yng Nghroesoswallt; rŷn ni wedi gweld yr honiadau ynglŷn â cheisio preifateiddio fferyllfeydd yn yr ysbytai; rŷn ni'n sicr wedi gweld ymdrechion i newid sifftiau gwaith 4,000 o nyrsys ar draws y gogledd, yn eu gorfodi nhw, i bob pwrpas, i weithio'r hyn sy'n gyfwerth â sifft ychwanegol y mis yn ddi-dâl, gan chwalu morâl y nyrsys yn llwyr. A dwi mor falch bod y cynnig fel y mae e gan Blaid Cymru yn cydnabod y gwaith aruthrol ac yn llongyfarch staff y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol ar yr hyn maen nhw'n ei gyflawni er gwaethaf ffaeleddau'r rheolwyr, a Llywodraeth Cymru yn yr achos yma—rheolwyr, gyda llaw, sy'n amlwg ddim yn gwneud eu gwaith yng ngogledd Cymru, oherwydd, fel rŷn ni wedi clywed, maen nhw'n gorfod tynnu i mewn ddwsinau lawer o reolwyr ymgynghorol ar ffioedd eithriadol o uchel, a hynny pan fo'r bwrdd yn cario dyledion o gwmpas £40 miliwn. Maent yn gwario degau o filiynau o bunnau wedyn ar staff o asiantaethau preifat tra bo nifer ohonom ni yn y Cynulliad yma wedi bod yn galw ers blynyddoedd lawer am ymdrechion mwy effeithiol a mwy sylweddol i recriwtio a hyfforddi staff yn ychwanegol.

Rŷn ni'n gweld dwsinau o gleifion iechyd meddwl yn cael eu hanfon i sefydliadau anaddas, gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o'u teuluoedd, yn Lloegr. Rŷn ni wedi gweld ffraeo ynglŷn â thaliadau am gytundebau i ysbytai yn Lloegr, sy’n golygu bod ysbytai fel y Countess of Chester wedi gwrthod cymryd cleifion o Gymru. Rŷn ni wedi gweld colli bron i 100 o welyau yn ychwanegol o ysbytai’r gogledd yn ystod y cyfnod o fesurau arbennig, heb sôn am golli gwelyau a cholli ysbytai cymunedol ar yr un pryd—29 o welyau wedi mynd yng Nglan Clwyd; 29 arall wedi mynd yn y Maelor—a hynny’n arwain, wrth gwrs, at y delayed transfers of care rŷn ni’n clywed amdano fe yn gyson. Y rhestrau aros gwaethaf yng Nghymru; y rhestrau aros adrannau brys gwaethaf yng Nghymru yn Ysbyty Wrecsam Maelor—prin hanner y cleifion sy’n cael eu gweld o fewn pedair awr. Ac mae gen i stori bersonol gallwn i ddweud wrthych chi am fod yn aros 12 awr am gael fy ngweld mewn adran frys. Nawr, mae hynny, wrth gwrs, yn golygu—[Torri ar draws.] Wnaf i ddim cymryd, mae’n ddrwg gen i; mae gen i lot o bethau i’w cael mewn.

Mae rhestrau o ambiwlansys wedyn, wrth gwrs, yn ciwio y tu allan yn sgil y diffyg llif yna o gleifion, ac rŷn ni’n clywed, wrth gwrs, beth sydd wedi digwydd mewn llefydd fel Gwersyllt, Rhosllanerchrugog a Fairbourne, pan fo cleifion yn gorfod aros oriau lawer am ambiwlans, a’r canlyniadau wrth gwrs yn rhai difrifol a thrist iawn yn rhai o’r achosion hynny.

Ddoe ddiwethaf fe amlygodd Adam Price fod dros hanner o’r holl ddigwyddiadau a oedd yn arwain at farwolaethau yn ysbytai Cymru yn ardal Betsi Cadwaladr, ac mae yna gwestiwn yn dal i fod am ddiogelwch cleifion iechyd meddwl yn y gogledd. Roedd adroddiad eto heddiw yn dweud bod gwasanaeth cwnsela iechyd meddwl y gogledd yn anaddas. Dyw pethau ddim yn gwella fel y byddem ni’n gobeithio ei weld. Yn wir, mewn rhai agweddau, mae’n rhaid imi ddweud, mae’r sefyllfa yn waeth nawr nag oedd hi bum mlynedd yn ôl.

Felly, beth mae mesurau arbennig wedi’u cyflawni? Y Prif Weinidog presennol oedd y Gweinidog iechyd a orfodwyd i fynd â Betsi Cadwaladr i mewn i fesurau arbennig, a’r Gweinidog iechyd presennol, pan oedd e’n Ddirprwy Weinidog ar y pryd, a gafodd y cyfrifoldeb penodol dros sefyllfa bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Mae’n hen bryd, yn fy marn i, i brif weithredwr y bwrdd i fynd. Mae wedi cael hen ddigon o amser inni weld cynnydd mwy sylweddol nag yr ydyn ni wedi ei weld erbyn hyn. Gallaf i ddim credu, a bod yn onest, ei fod e’n dal yn ei swydd. Byddem ni eisiau clywed gan y Dirprwy Weinidog pa drafodaethau sydd wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a’r bwrdd am ddyfodol y Prif Weinidog presennol—y prif weithredwr presennol. Mae’r drafodaeth ynglŷn â dyfodol y Prif Weinidog yn un arall allem ni ei chael mewn dadl arall efallai. Ond, yn fwy difrifol hefyd, mae gyda ni sefyllfa lle, gyda record y Gweinidog iechyd presennol, fel dwi wedi amlinellu, oll yn ystod y cyfnod yma o fesurau arbennig a rheolaeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, yn fy marn i, does amheuaeth, mae’n rhaid i’r Gweinidog fynd hefyd.