– Senedd Cymru ar 29 Ionawr 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw dadl Plaid Cymru ar berfformiad y gwasanaeth iechyd. Dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7244 Siân Gwenllian
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r ystadegau perfformiad diweddaraf ar gyfer y GIG ac yn gresynu at y methiant parhaus i gyrraedd targedau perfformiad ar draws amrywiaeth o arbenigeddau a gwasanaethau.
2. Yn gresynu at ganslo llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio er mwyn ymdrin â phwysau'r gaeaf ac yn credu ei bod yn bosibl cynllunio ar gyfer ymdrin â phwysau'r gaeaf a sicrhau bod llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio yn parhau.
3. Yn credu y dylid llongyfarch staff y GIG a gofal cymdeithasol am eu perfformiad o dan amgylchiadau anodd.
4. Yn credu y gellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn y tymor hir dim ond:
a) os caiff gwasanaethau gofal cymdeithasol yr un parch â'r GIG, ac yn gresynu nad yw gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u hariannu'n ddigonol ar draul y GIG;
b) os ceir buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau sy'n atal salwch;
c) os ceir gwelliannau i amodau gwaith a chynllunio'r gweithlu er mwyn gwella'r broses o recriwtio a chadw staff y GIG a gofal cymdeithasol.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n bleser gwneud y cynnig yn ffurfiol, cynnig yn enw Siân Gwenllian. Mi oedd hi'n demtasiwn mawr heddiw yma i atgyfodi neu ail-bobi hen araith ar gyfer y ddadl yma, oherwydd er fy mod i wedi bod i ffwrdd oddi wrth y portffolio iechyd ers rhyw flwyddyn a hanner, mae yna lawer gormod o bethau, dwi'n ofni, sydd ddim wedi newid yn fy absenoldeb.
Mae gormod o bethau, ar ôl dychwelyd i'r portffolio iechyd ar ôl absenoldeb byr, yn aros yr un fath. Credaf fod perfformiad gwael y GIG wedi bod yn debyg i gyflwr cronig i'r Llywodraeth bresennol. Mae'n gwanhau, gan achosi problemau i'r Llywodraeth wrth gynllunio ar gyfer y tymor hir, ond eto, nid ydym yn gweld y math o newidiadau enfawr yr hoffem eu gweld. Mewn llawer o wledydd eraill sy'n wynebu cyd-destun tebyg, does bosibl na fyddem wedi gweld Gweinidog yn colli ei swydd, neu newid Gweinidog. Mae'n bryder nad yw'n ymddangos bod unrhyw atebolrwydd sy'n bodoli o fewn y GIG yng Nghymru yn cynnwys atebolrwydd gan y Gweinidog iechyd ei hun. Ac os caf ddweud, mae'n drueni mawr nad yw'r Gweinidog yn gallu bod yma heddiw i gael ei ddwyn i gyfrif yn y ddadl hon; Dirprwy Weinidog sy'n mynd i ymateb i'r ddadl. Nid yw'n ddigon da.
Gwelaf o welliannau'r Llywodraeth nad yw sail ganolog ein cynnig, y gresynu at berfformiad gwael a
'[ch]anslo llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio er mwyn ymdrin â phwysau'r gaeaf' wedi'i ddiwygio y tro hwn. Efallai ein bod o'r diwedd yn symud oddi wrth y cam cyntaf o wadu erbyn hyn, ac mae hynny'n dda. Ond yn lle hynny, rydym yn gweld bai'n cael ei roi ar Lywodraeth y DU am gyni, sydd o leiaf yn awgrymu cydnabyddiaeth y dylai pethau fod yn well ac wrth gwrs, rwy'n cytuno bod cyni wedi'i lywio gan ideoleg wedi bod yn hynod niweidiol i ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ond y broblem yw bod hyn, gan Lywodraeth Cymru heddiw, braidd yn gamarweiniol ar lawer o fesurau perfformiad.
Mae Cymru wedi bod yn llusgo ar ôl yr Alban, a Lloegr i raddau llai, am y rhan fwyaf o'r degawd diwethaf, er bod cyni wedi effeithio ar bob gwasanaeth ar draws y DU. Yn wir, roedd Llafur eu hunain yn clodfori'r ffaith eu bod wedi bod yn gwario mwy ar iechyd a gofal cymdeithasol, ac rydym yn gofyn y cwestiwn syml: pam nad yw pethau wedi gwella yn y cyd-destun hwnnw? Oherwydd y gwir amdani yw ein bod wedi cael degawd lle mae Llywodraeth Cymru wedi achub croen y GIG dro ar ôl tro mewn achosion o berfformiad gwael, a hynny'n aml ar draul gwasanaethau llywodraeth leol, a gwyddom mor niweidiol y gall hynny fod. Ychydig iawn, os o gwbl, o weledigaeth neu reolaeth strategol a fu ar arian ychwanegol, lle roedd modd dod o hyd iddo. Ac rwy'n credu bod hynny'n fwy gwir wrth edrych ymlaen at y flwyddyn ariannol sydd i ddod nag y bu hyd yn oed dros y degawd diwethaf.
Er eu bod yn honni eu bod am gael mwy o wasanaethau yn y gymuned, er enghraifft, gan honni eu bod am newid y ffocws tuag at atal afiechyd, mae'r rhan fwyaf o arian yn dal i fynd tuag at ymladd tanau mewn gofal eilaidd, yn cael ei lifo tuag at ymgynghorwyr rheoli allanol, i asiantaethau sy'n cyflenwi staff y GIG a fyddai wedi parhau mewn cyflogaeth uniongyrchol pe bai'r amodau'n well. Yn wir, y bwrdd iechyd y bu gan Lywodraeth Cymru y mwyaf o reolaeth drosto, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yw'r un lle mae'r berthynas rhwng y rheolwyr a'r staff ar ei gwaethaf erioed oherwydd yr argymhellion sydd bellach wedi'u dileu ar amseroedd egwyl nyrsys. Dyma'r bwrdd iechyd gyda'r amseroedd aros gwaethaf ar gyfer triniaeth wedi'i chynllunio ac adrannau damweiniau ac achosion brys, ac mae'n hysbys iawn fod y bwrdd iechyd, wrth gwrs, yn hytrach na buddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen, wedi afradu cannoedd o filoedd o bunnoedd ar ymgynghorwyr rheoli allanol sy'n gweithio o gartref yn Marbella. Yn amlwg, nid yw cyni wedi eu taro hwy.
Nid yw'n ymwneud ag arian yn unig, er, wrth gwrs, fel y dywedais, mae cyni wedi taro'n galed drwyddi draw, ac nid ym maes iechyd yn unig. O edrych ar y meysydd lle gwyddom fod y perfformiad yn wael, ni allwn ond barnu ar sail mesurau perfformiad sydd ar gael i'r cyhoedd. Mae llawer gormod o fesurau yr hoffem eu cael ac nid oes gennym fesurau perfformiad ar eu cyfer, lle gallwn feintioli'r dystiolaeth anecdotaidd ynghylch amseroedd aros hir am apwyntiadau meddygon teulu er enghraifft; y gofal y tu allan i oriau nad yw'n bodoli; methiannau gofal cymdeithasol i gadw pobl yn eu cartrefi. Mae cymaint o ddata ar goll, ac nid wyf yn meddwl y byddai'r data hwnnw, pe bai ar gael, yn adrodd stori'n well na'r data sydd gennym mewn gwirionedd.
Mae'r holl fesurau perfformiad a gyhoeddir yn rheolaidd yn cyfeirio, i bob golwg, at ofal eilaidd, er bod eu methiannau ym maes gofal eilaidd yn aml iawn yn adlewyrchu methiannau mewn gofal sylfaenol, methiant i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol. Ac yn ogystal ag adroddiadau misol ar y methiant i gyrraedd targedau amseroedd aros, gadewch i ni ddychmygu sut y byddai'r sgwrs yn newid pe bai gennym adroddiad misol hefyd ar yr effaith y mae toriadau i wasanaethau lleol a chyllid awdurdodau lleol yn ei chael ar y gallu i addasu cartrefi pobl yn amserol, neu i roi pecynnau gofal yn eu lle mewn pryd. Felly, pan fyddwn yn myfyrio ar yr amseroedd aros hir a gyhoeddir bob mis, er mor annerbyniol ydynt wrth gwrs, gadewch inni fod yn glir mai'r hyn a welwn yw un arwydd gweladwy o fethiant yn y system sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn ac sy'n methu cael ei drawsnewid. Rydym yn dal i aros am y trawsnewid hwnnw ac ni welwn lawer o arwyddion ohono.
I droi at welliannau'r Ceidwadwyr, mae gennym fân wrthwynebiad i'r cyntaf. Yn ein barn ni, cynlluniau hirdymor gwael ar gyfer y gweithlu sydd ar fai am y problemau a welsom yn ddiweddar. Byddai'n well gennym ganolbwyntio ar hynny. Ond mae gwelliant 3, rwy'n meddwl, yn dangos pa mor anaddas yw'r Ceidwadwyr i redeg gwasanaethau iechyd yng Nghymru. O drafodaethau blaenorol yma, credwn fod—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Cyn i chi benderfynu ceisio ein goleuo ynglŷn â'r hyn y credwch y byddaf yn ei ddweud, buaswn yn falch iawn o—. Pan fyddwn yn siarad am welliant 3, byddaf yn dweud wrthych yn union pam ein bod wedi dileu hwnnw a rhoi dau arall yn ei le, a gobeithio y bydd hynny'n ateb eich pryderon.
O'r gorau. Ond mae'n amlwg, onid yw, lle mae'r Ceidwadwyr yn awgrymu rywsut na allwn ganolbwyntio ar y niwed a achosir gan ddiffyg buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol, nad oes ond angen inni edrych ar Loegr i weld beth a wnaeth Llywodraethau Ceidwadol yno drwy amddifadu awdurdodau lleol o arian a'r effaith ddinistriol a gafodd hynny ar ysbytai, yn enwedig adrannau damweiniau ac achosion brys, yn Lloegr? Mae'n codi amheuon clir iawn yn fy meddwl ac ym meddyliau llawer o bobl eraill rwy'n siŵr ynghylch pa mor ddifrifol y mae'r Ceidwadwyr ynglŷn â'r angen i adeiladu system integredig lle mae'n rhaid i chi gael cynaliadwyedd ar draws gofal cymdeithasol yn ogystal â'n hysbytai. Ac mae'r Ceidwadwyr, yn yr unig le y gallwn eu beirniadu, o fod yn llywodraethu yn Lloegr, wedi gwneud llanast llwyr o'r gallu i ddod â gofal cymdeithasol parhaus at ei gilydd er mwyn cynnal ein hysbytai.
Byddwn yn cefnogi gwelliant 4, ond byddwn yn gwrthod gwelliant 5. Mae'n ddigon posibl y bydd y grant bloc yn codi yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod mewn termau real, ond mae ymhell o fod yn lefel wirioneddol o gyllid y dylai Cymru ei gweld. Er enghraifft, nid yw'n adlewyrchu'r arian y dylai Cymru fod yn ei gael o gynlluniau fel HS2, sy'n sugno cymaint o arian Llywodraeth y DU, ac nid yw Cymru'n cael ei chyfran deg ohono, felly ni allwn gefnogi hwnnw.
Ond mae angen inni ganolbwyntio yn awr ar wella perfformiad a chael gwell gwerth am arian am yr hyn a wariwn. Ac yn dal i fod, heddiw, rydym yn rhoi cyfle i'r Dirprwy Weinidog—nid y Gweinidog—i roi awgrym bach i ni o ble mae'r Llywodraeth hon yn ail-ganolbwyntio ar weddnewid y gwasanaeth iechyd sydd gennym heddiw yn wasanaeth iechyd y bydd ei angen arnom yn y dyfodol. Mae angen inni gynnwys y mathau o newidiadau, y mathau o gronfeydd trawsnewid a all fynd â ni i'r fan honno, oherwydd, ar hyn o bryd, mae rheoli, neu'n anffodus, camreoli'r GIG yn golygu ein bod yn parhau yn y rhigol hon lle cawn yr un araith dro ar ôl tro, mae'n ymddangos, pwy bynnag fydd yn llefarwyr iechyd ar ran pleidiau'r wrthblaid, cyhyd â bod Llafur yn parhau mewn grym, oherwydd nid oes arwydd o gwbl o'r trawsnewid sydd ei angen ar ein GIG.
Rwyf wedi dewis y pump gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw Angela Burns, felly, i gynnig gwelliannau 1, 3, 4 a 5, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Angela Burns.
Diolch, Lywydd. Hoffwn gynnig yn ffurfiol y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Hoffwn ddiolch i Helen Mary Jones am allu cytuno ac anghytuno â hi mor dda yn y portffolio iechyd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf—byddaf yn gweld eich colli. A chroeso'n ôl, Rhun. Rydym wedi bod yma o'r blaen, ond mae'n dda eich gweld. Ac wrth gwrs, rydym wedi bod yma o'r blaen mewn sawl ffordd arall, ac rwy'n deall eich synnwyr o déjà vu, oherwydd yn eich absenoldeb byr o'r portffolio iechyd, ychydig iawn sydd wedi gwella, ychydig iawn sydd wedi newid, ac mae hynny'n bryder mawr iawn.
Dyna pam nad yw'r cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru yn un yr anghytunwn ag ef yn sylfaenol; mae'n datgan ffaith ac yn mynegi pryderon am berfformiad GIG Cymru. Fodd bynnag, teimlwn y gallai'r cynnig fod yn llawer cryfach, a dyna pam y byddwn yn gwrthwynebu'r cynnig er mwyn ceisio cefnogaeth i'r gwelliannau y byddaf yn sôn amdanynt yn fy nghyfraniad.
Yr hyn nad ydym yn cytuno ag ef yn sicr, Ddirprwy Weinidog, yw gwelliant 2 Llywodraeth Cymru, sydd, yn ôl ei arfer, yn datganoli pob cyfrifoldeb dros bopeth sy'n digwydd yma yng Nghymru i unrhyw un a phawb arall y gallwch feddwl amdanynt er mai eich plaid chi, mewn gwirionedd, eich Llywodraeth chi, gyda chymorth Plaid Cymru, sydd wedi bod yn rhedeg y GIG yng Nghymru ers 20 mlynedd. A gwelwn o'ch gwelliant pam yn union ein bod yn y sefyllfa rydym ynddi heddiw. Mae'r GIG yng Nghymru yn methu'n rhannol oherwydd y penderfyniadau a wnaed gan ei harweinyddiaeth a'r diffyg arweinyddiaeth a gaiff o'r lefel uchaf. Mae eich gwelliant yn ceisio rhoi'r bai ar eraill, ac nid yw'n mynd i'r afael â'r rhesymau pam eich bod wedi gwneud y penderfyniadau a wnaethoch ers i'r setliad datganoli gael ei gytuno.
Nawr, un peth rwyf am ei wneud yn glir iawn—ac rwy'n meddwl y byddai pob un ohonom yn cyd-fynd â hyn—mewn unrhyw ddadl a gawn ar y mater hwn, rwyf bob amser yn ymwybodol o'r niwed y gellir ei achosi i forâl y gweithlu rheng flaen sy'n trin cleifion o ddydd i ddydd, sy'n gorfod ymdrin â chanlyniad penderfyniadau gwleidyddion ac uwch reolwyr. Rwyf am gofnodi fy niolch i'r staff hynny unwaith eto am eu hymroddiad a'u parodrwydd i fynd y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir ganddynt i weithio'r oriau ychwanegol hynny, yn aml heb dâl. Ac a bod yn onest, fy neges i'r rhai sy'n gweithio yn y GIG yng Nghymru ac ym maes gofal cymdeithasol, yw: rydych chi'n haeddu gwell. A thrwy dynnu sylw at y problemau fel y gwnawn yn y dadleuon a gyflwynir yma, neu welliannau a luniwn i ddadleuon, ein bwriad, bwriad fy mhlaid, yw ceisio rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru a rheolwyr byrddau iechyd i hwyluso'r newid y mae angen inni ei weld.
Gan droi at ein gwelliannau—ac rwy'n ymddiheuro am hyn—hoffwn eu gwneud yn groes i'w trefn. Gwelliant 5: rydym yn croesawu'r hwb i'r grant bloc a gyhoeddodd y Canghellor yn ei adolygiad o wariant yr hydref yn ôl ym mis Medi, a hoffwn atgoffa'r Cynulliad fod y Gweinidog Cyllid wedi disgrifio'r ychwanegiad hwn at y grant bloc fel rhywbeth i 'dynnu sylw cyn yr etholiad'. A hoffwn nodi'n barchus, oni bai am y ffordd y gwnaeth ei phlaid gamreoli'r economi drwy'r DU, ni fyddai rhaid i'r gostyngiad yn y gwariant a oedd yn ofynnol i gael yr economi yn ôl ar y trywydd iawn fod wedi digwydd. Felly, nid yw wedi'i ysgogi'n ideolegol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf mewn munud, Mick. Rwyf am orffen fy mhwynt.
Nid yw wedi'i ysgogi gan ideoleg, Rhun ap Iorwerth; roedd yn gwbl angenrheidiol. A hoffwn annog y Dirprwy Weinidog i siarad â'r Gweinidog iechyd a gofyn iddo ddefnyddio cyfran ei adran o'r cyllid ychwanegol mewn ffordd strategol i edrych ar ble y bydd yr arian ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Oherwydd yn rhy aml, mae'r Llywodraeth hon yn meddwl y gallant greu newid gwirioneddol drwy daflu arian at yr un hen beth, yr un hen beth. Os nad yw'n gweithio, mae'n rhaid i chi wneud rhywbeth am y peth. Mae'n ddrwg gennyf—fe dderbyniaf yr ymyriad.
Diolch am ei dderbyn. Yn amlwg, byddwn yn mynegi ein barn yn ystod y cynnig hwn, ond mae ailadrodd y camsyniad fod cyni ar ôl 2010, ar ôl y cwymp ariannol, yn ganlyniad i wariant gan y Llywodraeth Lafur wedi'i wrthbrofi'n economaidd; mae'n ffeithiol anghywir. Ar y pryd, ychydig cyn y cwymp ariannol, roedd benthyca ar 35.7 y cant o'r cynnyrch domestig gros, a oedd 0.1 y cant yn uwch na hynny pan ddaeth Llafur i rym yn 1997. Nawr, gallwch gyflwyno eich dadleuon, ond mae'n ffeithiol anghywir. Nid canlyniad y Llywodraeth Lafur oedd y cwymp ariannol, ac rwy'n credu ei fod yn gamliwio, ac mae'n annheg i chi barhau i ailadrodd hynny.
Rwy'n credu eich bod am siarad yn nes ymlaen yn y ddadl, Mick Antoniw. Roedd hwnnw'n ymyriad eithaf hir, ac efallai y bydd angen i chi dynnu ychydig o amser oddi ar eich ymyriad yn nes ymlaen.
Ac ni thrafferthaf ateb eich ymyriad oherwydd rwy'n siŵr y gallwch siarad amdano yn eich rhan chi. Fodd bynnag, hoffwn fynd i'r afael â gwelliannau 3 a 4 oherwydd, mewn gwirionedd, gadewch i mi fod yn glir iawn: rydym wedi newid y gwelliannau hynny oherwydd ein bod yn credu bod rhwystr artiffisial yn rhy aml rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn yr un modd, fod yna rwystr artiffisial rhwng iechyd corfforol ei natur ac iechyd meddwl. Nawr, Rhun ap Iorwerth, rydych chi wedi eistedd gyda mi ar lawer o bwyllgorau pan fuom yn siarad am gyfanrwydd llesiant ac integreiddio'r unigolyn. Credwn fod angen i'n gwasanaeth iechyd cyfan symud y ffocws ac edrych ar bobl pan ânt i'r ysbyty, pan fyddant yn mynd i ofal sylfaenol, pan fyddant yn defnyddio gwasanaethau cymdeithasol mewn modd cyfannol, oherwydd un o'r meysydd mawr lle rydym yn colli arian a lle nad ydym yn cyflawni yw ein bod ond yn datrys y peth heb edrych ar yr unigolyn cyfan, eu hanghenion gofal cymdeithasol, eu hanghenion tai, eu hanghenion corfforol, eu hanghenion iechyd meddwl, a'u rhoi yn ôl at ei gilydd fel y gallant fynd yn ôl i'r gymdeithas a byw beth bynnag sydd ar ôl o'u bywydau gystal ag y gallant. A dyna yw ein bwriad yno, rhoi mwy o arian—rydym eisoes yn cael £8 biliwn ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae angen arian ar Gymru mewn meysydd eraill. Felly, mae angen adleoli'r £8 biliwn mewn ffordd lawer mwy clyfar a dilys lle rydym yn edrych ar y person cyfan, a dyna'r newid rydym yn ceisio ei sicrhau gyda gwelliannau 3 a 4.
Mae'n ddrwg iawn gennyf, gwn fod fy amser wedi dod i ben, ond roeddwn am ychwanegu'n gyflym ein bod yn sôn am recriwtio oherwydd pwysau ariannol am ein bod yn credu bod yna bwysau recriwtio enfawr yn bodoli, nid yn unig gyda meddygon a nyrsys, ond rydym yn anghofio am y staff ystafell gefn. Rydym bob amser yn siarad am y rheng flaen, ond os ydych chi'n feddyg ymgynghorol a bod rhaid i chi anfon llwyth o ganlyniadau allan at rywun ac nad oes gennych ysgrifennydd a all deipio'r llythyr hwnnw i fynd allan at yr unigolyn a'u ffonio i ddod yn ôl i gael rhagor o driniaeth, mae'n broblem enfawr. Rwyf am ei gadael ar hynny, rwy'n sylweddoli nad oes amser gennyf ar ôl. Diolch yn fawr am eich eiliadau ychwanegol, ond rwy'n cymeradwyo ein gwelliannau i'r Siambr.
Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog iechyd i gynnig yn ffurfiol welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.
Gwelliant 2—Rebecca Evans
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod effaith degawd o gyni annheg o gyfeiriad y DU ar yr adnoddau sydd ar gael i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn credu mai dim ond trwy’r dulliau canlynol y gellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn y tymor hir:
a) os bydd y GIG a gofal cymdeithasol yn cydweithio fel partneriaid cyfartal;
b) os bydd buddsoddi yn parhau ar draws y ddwy system i helpu pobl i gadw’n iach ac allan o’r ysbyty;
c) drwy barhau â’r ffocws ar recriwtio a chadw ein gweithlu iechyd a gofal, ynghyd â’u llesiant, gyda chymorth y strategaeth ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd.
Yn ffurfiol.
Mae nifer ohonon ni, wrth gwrs, yn ingol ymwybodol ym mis Mehefin y bydd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn cyrraedd carreg filltir anffodus eithriadol yn y ffaith y bydd wedi bod mewn mesurau arbennig am bum mlynedd. Nawr, dyna ichi hyd tymor Cynulliad cyfan o fesurau arbennig, sydd, dwi'n meddwl, yn rhywbeth efallai sydd yn tanlinellu pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa honno. Ac mae rhywun yn ffeindio'i hun yn gofyn i'w hunan, 'Beth mae mesurau arbennig wedi'u cyflawni o safbwynt Betsi Cadwaladr?' Beth yw pwynt y mesurau arbennig yma os nad ydyn ni'n gweld, ar ôl pum mlynedd, y cynnydd y byddai rhywun yn gobeithio ei weld a byddai rhywun yn teimlo sy'n deg inni ddisgwyl ei weld? Yn wir, mae mesurau arbennig wedi mynd yn rhyw fath o norm i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr erbyn hyn, ac ambell i un, â thafod yn y boch, yn gofyn, 'Oes yna ryw extra special measures y byddem ni'n gallu eu gosod o safbwynt y bwrdd?' Mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, er eu bod nhw yn y cyfnod hynny â rheolaeth uniongyrchol dros y bwrdd yn barod iawn, yn rhy aml o lawer, i wadu unrhyw gyfrifoldeb, a dyw hynny, wrth gwrs, ddim yn dderbyniol chwaith.
Felly, pa wahaniaeth mae pum mlynedd wedi'i wneud? Wel, mi ddywedaf i wrthych chi: yn ystod y cyfnod lle mae'r Llywodraeth, i bob pwrpas, wedi bod â goruchwyliaeth uniongyrchol dros y bwrdd, rŷn ni wedi gweld ceisio preifateiddio gwasanaethau dialysis yn Wrecsam ac yng Nghroesoswallt; rŷn ni wedi gweld yr honiadau ynglŷn â cheisio preifateiddio fferyllfeydd yn yr ysbytai; rŷn ni'n sicr wedi gweld ymdrechion i newid sifftiau gwaith 4,000 o nyrsys ar draws y gogledd, yn eu gorfodi nhw, i bob pwrpas, i weithio'r hyn sy'n gyfwerth â sifft ychwanegol y mis yn ddi-dâl, gan chwalu morâl y nyrsys yn llwyr. A dwi mor falch bod y cynnig fel y mae e gan Blaid Cymru yn cydnabod y gwaith aruthrol ac yn llongyfarch staff y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol ar yr hyn maen nhw'n ei gyflawni er gwaethaf ffaeleddau'r rheolwyr, a Llywodraeth Cymru yn yr achos yma—rheolwyr, gyda llaw, sy'n amlwg ddim yn gwneud eu gwaith yng ngogledd Cymru, oherwydd, fel rŷn ni wedi clywed, maen nhw'n gorfod tynnu i mewn ddwsinau lawer o reolwyr ymgynghorol ar ffioedd eithriadol o uchel, a hynny pan fo'r bwrdd yn cario dyledion o gwmpas £40 miliwn. Maent yn gwario degau o filiynau o bunnau wedyn ar staff o asiantaethau preifat tra bo nifer ohonom ni yn y Cynulliad yma wedi bod yn galw ers blynyddoedd lawer am ymdrechion mwy effeithiol a mwy sylweddol i recriwtio a hyfforddi staff yn ychwanegol.
Rŷn ni'n gweld dwsinau o gleifion iechyd meddwl yn cael eu hanfon i sefydliadau anaddas, gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o'u teuluoedd, yn Lloegr. Rŷn ni wedi gweld ffraeo ynglŷn â thaliadau am gytundebau i ysbytai yn Lloegr, sy’n golygu bod ysbytai fel y Countess of Chester wedi gwrthod cymryd cleifion o Gymru. Rŷn ni wedi gweld colli bron i 100 o welyau yn ychwanegol o ysbytai’r gogledd yn ystod y cyfnod o fesurau arbennig, heb sôn am golli gwelyau a cholli ysbytai cymunedol ar yr un pryd—29 o welyau wedi mynd yng Nglan Clwyd; 29 arall wedi mynd yn y Maelor—a hynny’n arwain, wrth gwrs, at y delayed transfers of care rŷn ni’n clywed amdano fe yn gyson. Y rhestrau aros gwaethaf yng Nghymru; y rhestrau aros adrannau brys gwaethaf yng Nghymru yn Ysbyty Wrecsam Maelor—prin hanner y cleifion sy’n cael eu gweld o fewn pedair awr. Ac mae gen i stori bersonol gallwn i ddweud wrthych chi am fod yn aros 12 awr am gael fy ngweld mewn adran frys. Nawr, mae hynny, wrth gwrs, yn golygu—[Torri ar draws.] Wnaf i ddim cymryd, mae’n ddrwg gen i; mae gen i lot o bethau i’w cael mewn.
Mae rhestrau o ambiwlansys wedyn, wrth gwrs, yn ciwio y tu allan yn sgil y diffyg llif yna o gleifion, ac rŷn ni’n clywed, wrth gwrs, beth sydd wedi digwydd mewn llefydd fel Gwersyllt, Rhosllanerchrugog a Fairbourne, pan fo cleifion yn gorfod aros oriau lawer am ambiwlans, a’r canlyniadau wrth gwrs yn rhai difrifol a thrist iawn yn rhai o’r achosion hynny.
Ddoe ddiwethaf fe amlygodd Adam Price fod dros hanner o’r holl ddigwyddiadau a oedd yn arwain at farwolaethau yn ysbytai Cymru yn ardal Betsi Cadwaladr, ac mae yna gwestiwn yn dal i fod am ddiogelwch cleifion iechyd meddwl yn y gogledd. Roedd adroddiad eto heddiw yn dweud bod gwasanaeth cwnsela iechyd meddwl y gogledd yn anaddas. Dyw pethau ddim yn gwella fel y byddem ni’n gobeithio ei weld. Yn wir, mewn rhai agweddau, mae’n rhaid imi ddweud, mae’r sefyllfa yn waeth nawr nag oedd hi bum mlynedd yn ôl.
Felly, beth mae mesurau arbennig wedi’u cyflawni? Y Prif Weinidog presennol oedd y Gweinidog iechyd a orfodwyd i fynd â Betsi Cadwaladr i mewn i fesurau arbennig, a’r Gweinidog iechyd presennol, pan oedd e’n Ddirprwy Weinidog ar y pryd, a gafodd y cyfrifoldeb penodol dros sefyllfa bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Mae’n hen bryd, yn fy marn i, i brif weithredwr y bwrdd i fynd. Mae wedi cael hen ddigon o amser inni weld cynnydd mwy sylweddol nag yr ydyn ni wedi ei weld erbyn hyn. Gallaf i ddim credu, a bod yn onest, ei fod e’n dal yn ei swydd. Byddem ni eisiau clywed gan y Dirprwy Weinidog pa drafodaethau sydd wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a’r bwrdd am ddyfodol y Prif Weinidog presennol—y prif weithredwr presennol. Mae’r drafodaeth ynglŷn â dyfodol y Prif Weinidog yn un arall allem ni ei chael mewn dadl arall efallai. Ond, yn fwy difrifol hefyd, mae gyda ni sefyllfa lle, gyda record y Gweinidog iechyd presennol, fel dwi wedi amlinellu, oll yn ystod y cyfnod yma o fesurau arbennig a rheolaeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, yn fy marn i, does amheuaeth, mae’n rhaid i’r Gweinidog fynd hefyd.
Rwy'n credu y dylem fod o ddifrif ynglŷn â'r hyn y mae Angela Burns yn ei ddweud am yr effaith y mae ein dadleuon ar y pwnc hwn yn ei chael ar y gweithlu. Felly, er i ni glywed yn gynharach am y problemau a wynebir gan Ysbyty Brenhinol Morgannwg gyda'r unig feddyg ymgynghorol parhaol achosion brys ar fin ymddeol, ac mae Llyr newydd fod yn siarad am y problemau parhaus yn Betsi Cadwaladr, ac nid wyf yn dymuno eu bychanu mewn unrhyw ffordd, ond mae'n rhaid i chi feddwl am effaith atgoffa pobl yn barhaus o'r heriau sydd o'u blaenau heb ddarparu atebion. Credaf fod rhaid inni edrych ar beth y gallwn ei wneud a'r hyn rydym yn ei wneud ynglŷn â hyn.
Felly, roeddwn am roi sylw i'r hyn sydd yng ngwelliant 2 oherwydd credaf ei bod yn bwysig iawn cydnabod na ellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn hirdymor os nad yw staff y GIG a'r gweithlu gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd fel partneriaid cyfartal. Oherwydd pwysleisiodd y Prif Weinidog yn ddiweddar mai ffigurau 2019 yw'r ffigurau gorau a gofnodwyd ar gyfer achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal o gymharu â'r ddwy flynedd flaenorol, ond mae wedi cael cryn effaith ar y gweithlu gofal cymdeithasol sydd wedi gorfod ysgwyddo'r baich am ein bod yn awyddus iawn, yn naturiol, i gael pobl allan o'r ysbyty pan nad oes angen gofal ysbyty arnynt mwyach.
Rwyf newydd fod yn darllen y cynllun drafft a ddeilliodd o 'Cymru Iachach', ac a ysgrifennwyd gan y gweithlu gofal cymdeithasol yn ogystal ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, sy'n cynnwys y ddeoniaeth, y gwasanaethau addysg a datblygu, a'r fferyllwyr. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod gennym raglen ar gyfer y gweithlu sy'n mynd ati o ddifrif i gydgysylltu'r dotiau rhwng y ddau wasanaeth, ac rwy'n meddwl—. Maent yn amlinellu'n glir iawn fod angen inni drawsnewid rolau traddodiadol a ffyrdd traddodiadol o weithio i gefnogi modelau gofal newydd, a'u bod eisoes yn cael eu datblygu drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol, yn ogystal ag mewn gofal sylfaenol a thrwy gynlluniau cymorth yn y cartref.
Mae'n pwysleisio pwysigrwydd meithrin diwylliant o arweinyddiaeth dosturiol a chynhwysol, ac mae'n wirioneddol bwysig fod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gorfod edrych ar yr unigolyn o'u blaenau a gwrando arnynt, yn hytrach na dim ond dweud, 'Wel, rydych chi'n mynd i gael y peth hwn' ac 'Rydych chi'n mynd i gael y peth arall'. Rhaid inni ailadrodd yr egwyddorion a nodir yn 'Gofal Iechyd Darbodus' a 'Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy', sy'n ymwneud â'r bartneriaeth rhwng y dinesydd a'r darparwr gwasanaethau.
Yr ail bwynt a wnaed yng ngwelliant 2 yw'r buddsoddiad i helpu pobl i aros yn iach ac allan o'r ysbyty. Nawr, wrth gwrs, yn y tymor hir, mae angen inni gael pobl i fwyta bwyd glân, ffres a cherdded neu feicio yn hytrach na dibynnu ar y bws neu'r car ar gyfer teithiau byr, ond rwy'n sylweddoli na fydd hynny'n digwydd dros nos. Felly, yn y tymor byr, rwy'n credu ei bod yn bwysig mynd i'r afael â'r ffaith bod Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru yn dweud y gallai cynifer ag un o bob pump o'r rhai sy'n dod i'r adran damweiniau ac achosion brys gael eu trin yn rhywle arall mewn gwirionedd. Ac os bydd y broblem honno gennym o hyd, mae gwir angen inni barhau i weithio ar hynny. Ac yn amlwg, mae Dewis Doeth yn ffordd o annog y dinesydd i beidio â mynd i'r adran achosion brys oni bai fod gwir angen gwasanaethau brys arnynt. Mae Cydffederasiwn y GIG yn cynnig rhestr wirio o'r hyn y gall pobl ei wneud i aros yn iach dros y gaeaf, a bydd pob un ohonom yn gyfarwydd â'r mathau o bethau sy'n gysylltiedig â hynny—gwneud yn siŵr fod pobl yn gwisgo'r mathau o ddillad ac yn trefnu dodrefn mewn ffordd sy'n eu helpu i osgoi cwympo.
Ond rwy'n credu bod angen dull mwy cyfannol ar gyfer llawer o bobl nad ydynt yn darllen rhestrau gwirio, ac nad ydynt yn gweithredu yn y modd hwnnw—mae'n fwy na thebyg fod llawer ohonynt yn profi unigedd—ac felly hoffwn gymeradwyo un neu ddau o bethau y mae bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro yn ei wneud: (1) mae ganddo rywbeth o'r enw rhaglen iechyd a ysgogir gan ddinasyddion, lle maent yn gweithio gyda Chymdeithas Tai Cadwyn, gyda staff a gwirfoddolwyr, sy'n mynd i mewn i gartrefi pobl, yn dod i adnabod pobl hŷn, yn nodi eu hanghenion a'u dyheadau a chanfod beth yr hoffent ei gyfrannu o ran sgiliau a diddordebau. Ac rwy'n meddwl bod hynny'n crisialu'r hyn a olygwn wrth ofal cyfannol—gyda'r person hŷn, a'u grymuso i wneud pethau, pethau y gallant eu gwneud drostynt eu hunain, a'u rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau a fydd yn trechu unigrwydd ac yn eu helpu i deimlo'n well am eu bywydau.
Yn yr un modd, ceir menter arall o'r enw Wellbeing 4U y maent wedi'i chomisiynu gan Gymdeithas Tai United Welsh, sy'n gweithredu gyda chyllid gofal sylfaenol i gyflawni mewn practisau meddygon teulu mewn ardaloedd difreintiedig er mwyn trechu unigedd, pryder, iselder a lefelau uchel o yfed alcohol, y gwyddom ei fod (a) yn arwain at bobl yn cwympo, a (b) yn arwain at sirosis yr afu.
Mae angen i chi ddod â'ch cyfraniad i ben yn awr—rwyf wedi bod yn hael iawn yn barod.
Diolch. Mae'n ddrwg gennyf. Dim ond dweud ei fod wedi bod yn effeithiol iawn, a'i fod wedi lleihau'r—. Mae pobl yn teimlo'n well yn gorfforol ac yn feddyliol ac yn gwneud llawer llai o apwyntiadau i weld meddygon teulu.
Mae'r camreoli a'r perfformiad gwael a amlygwyd gan fy nghyd-Aelodau yng ngogledd Cymru yn frawychus yn wir, ond ni allaf ond teimlo bod hyn hefyd yn rhywbeth y gallai fy etholwyr i fod yn ei wynebu, felly rwyf am siarad am y problemau sy'n wynebu pobl ym mwrdd iechyd Cwm Taf, wrth i'r amrywiaeth o fesurau arbennig barhau i ddod yn fwyfwy arferol. Er nad yw amseroedd aros cynddrwg ag yn y gogledd, mae'r perfformiad yn parhau i fod yn wael, gyda rhestr gyfan o dargedau wedi'u methu.
Ceir derbyniad ei bod hi'n iawn i bobl aros am amser hir i gael triniaeth, ond nid yw'n iawn o gwbl, nid yw'n dderbyniol. Gall dadleuon ynghylch amseroedd aros fod ychydig yn sych weithiau, ond mae yna bobl y tu ôl i'r ffigurau. Mae gennyf enghraifft o achos, nad wyf yn credu ei fod yn unigryw, gwaetha'r modd. Mae'r person hwn wedi bod yn aros am dros 16 mis i gael triniaeth, ac mae'n ysgrifennu am yr aros, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae hyn wedi cael effaith sy'n cyfyngu'n fawr ar ansawdd fy mywyd. Hyd nes fy diagnosis, roeddwn yn ystyried fy mod yn ddyn a wnâi lawer o weithgarwch corfforol. Roeddwn yn chwarae golff dair gwaith yr wythnos ac yn mwynhau garddio ar fy rhandir hefyd. Rwy'n teimlo ei bod hi'n hynod o bwysig i mi gadw'n heini yn fy oedran i, ac mae'r aros diddiwedd am y llawdriniaeth yn gwneud i mi deimlo'n ddigalon iawn am fy mod yn ymwybodol o'r ffaith nad wyf yn mynd yn iau a hoffwn fod mewn sefyllfa i fwynhau'r blynyddoedd sy'n weddill o fy mywyd, yn lle aros mewn limbo. Dywedwyd wrthyf y byddwn yn cael y llawdriniaeth cyn y Nadolig, ac yna rywbryd ym mis Ionawr. Ymddengys bod y terfynau amser hyn yn mynd a dod, ac wrth iddynt wneud hynny, mae fy iselder yn gwaethygu.'
Os ydym o ddifrif ynghylch atal salwch, rheoli cyflyrau cronig yn y gymuned a chynorthwyo pobl i ddilyn ffordd iach o fyw, rhaid i sicrhau triniaeth brydlon pan fo'i hangen fod yn rhan o hynny. Ac os ydyw, pam y dywedir wrthym nad yw'n bosibl parhau â'n gwasanaethau brys?
Wel, mae'n bosibl cael gwasanaethau da mewn gofal sylfaenol sy'n atal salwch ac sy'n helpu pobl i gadw'n iach—cystal ag sy'n bosibl—a chael gwasanaethau ysbyty hefyd pan fo'u hangen. Bydd yna bob amser adegau pan fydd angen triniaeth frys ar bobl ar unwaith. Efallai y gallwn leihau nifer y bobl sy'n cael trawiad ar y galon, strociau ac ati drwy wella iechyd cyhoeddus, ond nid oes neb yn credu y byddai'r holl risgiau'n cael eu dileu. Bydd angen ysbytai a meddygaeth frys bob amser ac o'r herwydd, mae angen darparu gwasanaethau o fewn pellter rhesymol i bawb ym mhob rhan o Gymru.
Ac mae'n rhaid i bellter rhesymol adlewyrchu realiti amseroedd teithio yn ystod tywydd garw, rhaid iddo adlewyrchu diffyg perchnogaeth ar geir mewn cymunedau difreintiedig, a dylid ei gynllunio mewn ffordd sy'n mynd i'r afael â deddf gofal gwrthgyfartal, sy'n golygu ysbytai i wasanaethu'r poblogaethau lleol drwy'r Cymoedd. Ond fel y gwelsom, mae'r Llywodraeth bresennol wedi bod yn fodlon caniatáu i Ysbyty Brenhinol Morgannwg waethygu a dirywio fel pe bai ganddi obsesiwn ideolegol ynglŷn â chael llai o unedau arbenigol ar gyfer y Cymoedd.
Y Gweinidog iechyd sy'n gyfrifol am gyfeiriad strategol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae wedi'i wanhau ers cytuno rhaglen de Cymru yn ôl yn 2014. Pam y byddai unrhyw un am fynd i weithio mewn adran sy'n cael ei gwanhau? Mae'r gymhareb o feddygon ymgynghorol yn frawychus. Er bod cyfartaledd y DU yn 7,000 o bobl i bob meddyg ymgynghorol, lle dylai fod yn nes at 4,000, mae'n 15,000:1 yn ein bwrdd iechyd lleol ni. Mae hynny'n sgandal.
Ac mae wedi digwydd oherwydd bod nifer o Weinidogion iechyd wedi rhoi eu bysedd yn eu clustiau ac wedi gwrthod bod yn fwy arloesol mewn perthynas â recriwtio. Mae'n bosibl recriwtio. Deallaf fod Caerdydd yn recriwtio drwy gynnig bonysau cadw staff. Datgelodd sgwrs ddiweddar gyda chyn-feddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg fod Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn lle deniadol i feddygon ymgynghorol weithio ynddo. Mae gan y Gweinidog bŵer i ymyrryd yma.
Ddirprwy Weinidog, rydych wedi gwrando ar farn Aelodau sy'n cynrychioli'r etholaethau cyfagos—nid mater i'r Rhondda a Phontypridd yn unig yw hwn. Bydd yn cael effaith ganlyniadol ar bobl yng nghwm Cynon, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a thu hwnt. A wnewch chi annog y Gweinidog i ymyrryd? Rhowch un cyfle olaf inni achub y gwasanaeth hwn y mae cymaint o bobl yn pryderu'n ddifrifol am ei golli.
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Ar ddechrau degawd newydd, pan fydd ein meddyliau'n troi at y dyfodol, mae ein GIG unwaith eto'n cael ei lethu gan broblemau'r gorffennol. Mae adrannau damweiniau ac achosion brys Cymru newydd weld eu hamseroedd aros gwaethaf erioed. Yn ôl ffigurau amseroedd aros y mis diwethaf, dim ond 72 y cant a dreuliodd lai na phedair awr mewn adran damweiniau ac achosion brys yn aros i gael eu trin, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau, o gymharu â'r targed o 95 y cant. Mae'r ffigurau hyn yn sylweddol waeth na'r llynedd ac mae'n rhaid inni ystyried a gofyn i'n hunain pam y mae hynny.
Bu mwy o gleifion nag erioed yn aros dros 12 awr—ymhell dros 6,500 —pan fo'r targed yn dynodi na ddylai neb aros mor hir â hynny. Methodd y gwasanaeth ambiwlans gyrraedd ei darged ar gyfer ymateb i alwadau a oedd yn bygwth bywyd yn uniongyrchol am yr eildro ers cyflwyno'r targed bum mlynedd yn ôl. Ac er iddi fod yn aeaf mwyn, mae ein GIG unwaith eto wedi cael ei ymestyn i'r pen. Mae gennym sefyllfa lle na all ein GIG ymdopi â phwysau arferol, ac os bydd yn rhaid inni ymdrin â llif o gleifion sy'n dioddef o ffliw tymhorol, neu'r bygythiad sy'n dod i'r amlwg o Tsieina, mae arnaf ofn y bydd ein system gofal iechyd yn chwalu. A hyn er i Lywodraeth Cymru ddyrannu £30 miliwn ychwanegol yn ogystal â £10 miliwn ychwanegol yr wythnos diwethaf.
Er mwyn dod o hyd i ateb i'n problemau, mae angen gwneud mwy na darparu mwy o arian yn unig, a dyna pam rwy'n annog yr Aelodau i wrthod gwelliant y Llywodraeth. Rhaid inni ofyn i ni'n hunain pam fod ein canlyniadau'n waeth, ein hamseroedd aros yn hwy a'n mynediad at wasanaethau yn waeth er ein bod yn gwario cryn dipyn yn fwy y pen ar iechyd nag yn Lloegr neu'r Alban. Felly mae'n rhaid i ni gwestiynu sut y mae'r £7.5 biliwn a ddyrannwn i iechyd bob blwyddyn yn cael ei wario. Nid yw'n gwestiwn cyfrifo haniaethol am gyllidebau; mae'n gwestiwn sylfaenol am iechyd pobl. Ac rydym yn gweld dinasyddion Cymru'n mynd yn ddall yn disgwyl am driniaeth, dinasyddion Cymru'n methu gweithredu am eu bod yn treulio'u dyddiau mewn poen, ac rydym yn gweld dinasyddion Cymru'n marw o ganser oherwydd ein bod yn methu gwneud diagnosis ohono'n gynt.
Mae ein GIG wedi'i ddal at ei gilydd gan ymdrechion anhygoel ei feddygon, ei nyrsys a'i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, ond ni all hynny bara, ac mae pethau eisoes wedi cyrraedd pen eu tennyn. Rhaid inni sicrhau bod y swm sylweddol o arian a wariwn ar iechyd yn cael ei wario'n effeithiol. Mae angen inni ganolbwyntio ein hymdrechion yn hytrach na thaflu arian at y problemau yn y gobaith y byddant yn diflannu—ni fydd hynny'n digwydd. Mae angen inni fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol hefyd. Ac mae blocio gwelyau yn dal i fod yn broblem sylweddol. Dywedodd un meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Treforys ei fod yn gwybod am 106 o gleifion a oedd yn ffit yn feddygol ond yn dal yn yr ysbyty am nad oedd pecyn gofal ar gael. Ac eto, ar yr un pryd, dyma ni'n canslo llawdriniaethau, gan adael pobl mewn poen, a allai rwystro eu hadferiad a chynyddu cost triniaeth.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
A ddywedodd hefyd faint o bobl na châi eu rhyddhau o'r ysbyty neu na allent fynd adref am nad oedd y fferyllfa'n barod i roi eu meddyginiaeth iddynt? A faint oedd yn ddigon iach i fynd adref, ond nad oedd meddyg ymgynghorol wedi dod o gwmpas i'w rhyddhau?
Rwy'n deall, Mike, fod y fferyllfa'n broblem mewn llawer o ysbytai, oherwydd ni allant ddosbarthu'r feddyginiaeth ar adeg addas i bobl fynd adref, ac mae llawer yn y pen draw yn dod gyda'r nos a chaiff pobl eu cadw'n hwy na'r angen. Felly, yn bendant mae angen edrych ar hynny, a diolch ichi, Mike, am godi hynny.
Mae Llywodraethau olynol wedi methu cynllunio ar gyfer y dyfodol, felly mae cyfran fawr o'n cyllideb yn mynd ar staff asiantaeth. A phrin iawn fu'r cynllunio ar gyfer y gweithlu, sydd wedi golygu nad yw ein GIG yn gallu ymdopi â phoblogaeth sy'n tyfu ac sy'n heneiddio, a diffyg cynllunio, sydd wedi arwain at y cyfraddau goroesi canser gwaethaf yng ngorllewin Ewrop. Felly, mae angen dull newydd o ymdrin â gofal iechyd yng Nghymru ac mae hyn yn golygu sicrhau bod ein sector gofal sylfaenol yn cael ei ariannu'n briodol. Mae gennym gynllun cenedlaethol ar gyfer y gweithlu ac rydym yn rhoi blaenoriaeth i atal yn y maes iechyd. Rhaid inni hefyd sicrhau bod ein sector gofal cymdeithasol yn cael ei ariannu'n briodol. Ni all ein GIG fforddio pum mlynedd arall o'r camreoli hwn ac rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig.
Ceir llawer iawn o heriau yn ein gwasanaeth iechyd. Rydym yn gweld y rhain yng Nghymru, y DU, Ewrop ac ym mhob rhan o'r byd, ac nid wyf yn mynd i fynd drwy'r dadansoddiadau hynny. Yr hyn rwyf am ei wneud, er hynny, yw sôn am bwysigrwydd yr ysbyty sydd ond ychydig funudau o ble rwy'n byw, sef Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a'r perfformiad yn y fan honno a phwysigrwydd yr ysbyty arbennig hwnnw i'r gymuned leol, a pham fod angen edrych ar y ffigurau ac adolygu rhaglen chwe blwydd oed sydd bellach wedi dyddio.
Mynychodd 5,152 o bobl adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg ym mis Rhagfyr 2019; mynychodd 4,800 Ysbyty Tywysoges Cymru; a mynychodd 4,947 Ysbyty'r Tywysog Siarl. Yn y ffigurau perfformiad 12 awr, roedd Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar 95 y cant a'r ddau ysbyty arall ar 90 y cant yn y drefn honno. Roedd perfformiad amseroedd aros pedair awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg unwaith eto yn well na'r ddau ysbyty arall. Credaf fod hynny'n tanlinellu, pan ddechreuwn geisio llunio cymariaethau, nad yw'n ymwneud â'r ffigurau'n unig, ond mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg mewn sefyllfa bwysig ac yn cyflawni i safon uwch mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, ac mae'n bwysig iawn, ac yn bwysig mewn ardal lle ceir cynnydd enfawr yn nifer y tai: 20,000 o gartrefi yn ardal Taf Elái dros y degawd nesaf. Felly, mae'r twf yno a materion sy'n codi ynglŷn â mynediad yn sylfaenol bwysig.
Ond rwyf am ddweud hyn: mae cyllid ac arian yn bwysig wrth gwrs, ac mewn gwirionedd mae'n sylfaenol mewn sawl ffordd. Er enghraifft, dros y degawd diwethaf, mae effaith cyni yn sgil rhewi cyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus wedi bod yn wirioneddol arwyddocaol mewn perthynas â morâl staff ac o ran cadw staff, ac mae wedi bod yn ffactor enfawr. Y ffactor arall fu'r tangyllido neu'r diffyg arian sydd ar gael i ariannu'r GIG fel y dylai. Pan enillodd Llafur yr etholiad yn 1997 a dweud, 'Mae gennych 24 awr i achub y GIG', roeddent yn iawn. Ac mewn gwirionedd, fe wnaeth y Llywodraeth Lafur honno achub y GIG. Rhwng 1997 a 2010—mae'n ddrwg gennyf, 2009—gwelwyd cynnydd o 6 y cant mewn termau real bob blwyddyn yn arian y GIG gan y Llywodraeth Lafur honno. Gwnaeth hynny wahaniaeth enfawr ac fe achubodd y GIG. Pan ddaeth Llywodraeth y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol i mewn, roedd y cyllid yn 1.1 y cant. Gyda Cameron a May, yn eu Llywodraethau Ceidwadol rhwng 2014 a 2019, nid oedd ond yn 1.6 y cant. Pan fydd pobl yn cwyno am y maniffesto Llafur—[Torri ar draws.]—y maniffesto Llafur yn bod yn afradlon, y cynnig Llafur—.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, fe dderbyniaf ymyriad, ond gadewch i mi orffen hyn. Roedd y cynnig Llafur yn 4.3 y cant mewn termau real. Iawn, fe dderbyniaf ymyriad.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad a gallwn ddadlau am y ffigurau, ac rydym wedi gwneud hynny lawer o weithiau. Y peth allweddol, fel y dywedais yn y cwestiwn brys i'r Gweinidog iechyd y prynhawn yma, yw ei fod yn gyfrifol am gyfeiriad strategol y GIG yng Nghymru. Gallai gyfarwyddo'r bwrdd iechyd i gadw'r adran damweiniau ac achosion brys honno'n agored a dyfeisio achos busnes i wneud yn siŵr fod hynny'n digwydd. A ydych yn cefnogi hynny ac a ydych yn cefnogi'r camau y dylai'r Gweinidog iechyd eu cymryd i gadw'r adran honno ar agor?
Credaf i chi glywed fy araith yn gynharach pan ddywedais fy mod yn credu bod y rhaglen wedi dyddio erbyn hyn ac y dylid adolygu'r rhaglen honno cyn ystyried unrhyw gynigion pellach. Roeddwn yn gwbl glir ynglŷn â'r pethau a ddywedais yn gynharach, a oedd yn bethau a ddywedais lawer o flynyddoedd yn gynharach pan wnaethom achub yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg i bob pwrpas.
Ond yr hyn na allwch ei osgoi yw bod 10 mlynedd o gyni'r Torïaid wedi ein hamddifadu o symiau enfawr o arian: £4 biliwn. Ac yna pan soniwn hefyd—[Torri ar draws.] Pan soniwn hefyd am yr effaith ar wasanaethau llywodraeth leol—gwn nad ydynt yn hoffi clywed y ffigurau hyn—yn Lloegr, cafwyd toriad o 25 y cant mewn termau real i'r gwasanaethau cymdeithasol; yng Nghymru, cafwyd toriad o 8 y cant. Dyma ganlyniad cyni'r Torïaid. Mewn unrhyw asesiad o berfformiad, rhaid i chi edrych ar yr amgylchedd rydym ynddo ac nid oes amheuaeth o gwbl mai cyni'r Torïaid oedd un o'r pethau a gyfrannodd fwyaf at y gallu i ymdopi â'r pwysau sydd ar y GIG yn Lloegr ac yng Nghymru hefyd.
Wel, rydym newydd glywed yr economeg ffantasïol arferol gan y Blaid Lafur fel pe bai'r arian—[Torri ar draws.] Wel, rwy'n credu y dylwn gyrraedd o leiaf bum brawddeg cyn inni gael ymyriad. [Torri ar draws.] Mae angen i mi wneud rhywfaint o gynnydd yn awr.
Yr Aelod sydd i benderfynu a yw'n derbyn ymyriad ai peidio.
Mae fel pe na bai argyfwng ariannol 2010-11 erioed wedi digwydd. Ar un olwg, mae'r Aelodau'n iawn, wrth gwrs, fod y GIG yn cael ei thanariannu ym mhobman. Bob blwyddyn, mae'n rhaid iddo gystadlu, o ystyried ei fod yn fonolith wedi'i wladoli, pan ddaw'r gyllideb a chylch gwariant y Llywodraeth. Rhaid iddo gystadlu â'r holl flaenoriaethau gwariant eraill sydd gan Lywodraethau. Felly, mae'n rhwym o gael ei danariannu hyd dragwyddoldeb, o'i gymharu â'r anghenion y mae'n rhaid iddo ymdrin â hwy. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw pa mor dda y defnyddiwch yr arian sydd gennych. Ac rwy'n ofni, os ydym am farnu datganoli yn ôl ei ganlyniadau, rhaid inni ddod i'r casgliad fod datganoli wedi methu.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf, rwyf am wneud y pwynt hwn yn gyntaf cyn i mi ildio. Fe ildiaf, ond rwyf am wneud y pwynt hwn yn gyntaf.
Ydy, mae Cymru'n gwneud yn wael o fformiwla Barnett. Rwy'n derbyn hynny'n llwyr. A phe bai'n seiliedig ar anghenion, byddai gan Gymru lawer mwy o arian a byddai gennym fwy o arian i'w roi i'r gwasanaeth iechyd. Ond mae'r syniad fod Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn mynd i roi mwy o arian i Lywodraeth Lafur yng Nghymru, wrth gwrs, yn nonsens llwyr. Ac o gofio bod Cymru, dros fy oes, wedi ethol mwyafrif helaeth o Aelodau Seneddol asgell chwith, mae yna anhawster systemig yma na ellir ei ddileu, cyhyd â bod gennym y setliad datganoli sydd gennym.
Fe ildiaf i Mick Antoniw.
I gael eglurder ar yr un pwynt hwn. A ydych yn credu bod y £4 biliwn rydym wedi'i golli i bob pwrpas ers i Lywodraeth Dorïaidd fod mewn grym wedi effeithio ar ansawdd y gwasanaethau y gallwn eu darparu yng Nghymru, ac yn Lloegr yn wir?
Wel, yn amlwg, pe bai gennym fwy o arian, byddem yn gallu gwneud mwy o bethau. Rwy'n derbyn hynny'n llwyr wrth gwrs. Ond mae'r syniad y gallai Llywodraeth y DU anwybyddu'r gwaddol ariannol a gafodd gan y Llywodraeth Lafur yn 2010 yn hurt. Edrychwch ar y ffigurau. Ers i Gordon Brown dynnu'r breciau oddi ar wariant cyhoeddus yn 2001, aeth popeth yn gawl potsh. Ni lwyddodd y Llywodraeth Lafur i drwsio'r to tra oedd yr haul yn tywynnu. Yn 2001—[Torri ar draws.] Oherwydd yn y Llywodraeth Lafur gyntaf—[Torri ar draws.] Na, ni wnaf oherwydd fy mod i'n ateb— rhaid i mi orffen ateb yr ymyriad hwn cyn i mi dderbyn un arall.
Dilynodd Llywodraeth Lafur gyntaf Tony Blair gynlluniau gwariant Kenneth Clarke wrth gwrs, ac mewn gwirionedd disgynnodd gwariant cyhoeddus yn ystod y Llywodraeth Lafur honno fel canran o gynnyrch domestig gros. Ac yna o 2001 ymlaen, fe gododd yn ddi-baid, o 27 y cant yn 2001 i 50 y cant o'r cynnyrch domestig gros erbyn i'r argyfwng ariannol daro. Felly, roedd llawer llai o le i symud er mwyn ymdopi â'r argyfwng ariannol. A chynyddodd gwariant y Llywodraeth, fel cyfran o gynnyrch domestig gros, o 35 y cant yn 2000 i 40 y cant yn 2009, i 45 y cant yn 2012. Mae'r syniad y gellid anwybyddu hyn ac na fyddai'n rhaid tynhau'r gwregys mewn rhyw fodd oherwydd y gorwario cynharach yn hollol afrealistig.
Felly, y broblem fawr sydd gennym yma yw, ie, nid oes digon o arian, ond sut y cawn ragor o arian? Yr unig ffordd y cawn ragor o arian yw drwy gadw'r adnoddau sydd gennym a'u dargyfeirio o rai blaenoriaethau gwario i rai eraill. Os yw'r Llywodraeth yn gwario bron £150 miliwn ar ymchwiliad cynllunio ar yr M4, nad yw'n digwydd wedyn, mae hwnnw'n wastraff arian, a cheir pob math o wastraff arian arall y gallem ei enwi hefyd. [Torri ar draws.] Nid oes gennyf lawer o amser, ond fe ildiaf.
Tybed a ydych hefyd yn credu ei bod yn wastraff llwyr ar arian fod Llywodraeth y DU wedi newid y lwfansau treth pensiwn heb ystyried y canlyniadau gwrthnysig sydd wedi golygu nad yw 27,000 o gleifion yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt?
Nid wyf yma i amddiffyn y Llywodraeth Geidwadol. Nid wyf yn Aelod Ceidwadol o'r Cynulliad hwn.
Rwyf am gadw at y gwasanaeth iechyd. Mae iechyd yn amsugno hanner cyllideb Llywodraeth Cymru, ac mae'n tyfu, ac mae'n rhwym o dyfu am fod yr anghenion yn tyfu'n gyflymach na'r dull o fynd i'r afael â hwy, ac mae hynny'n wir am y boblogaeth gyfan ledled y Deyrnas Unedig. Felly, mae'n rhaid inni dyfu i fyny pan fyddwn ni'n sôn am ariannu'r gwasanaeth iechyd. Mae'r syniad, oherwydd bod rhannau o'r gwasanaeth iechyd wedi'u preifateiddio fel y'i gelwir—soniodd Llyr Gruffydd am rai ohonynt yng ngogledd Cymru yn ei araith. Mae hyn, rwy'n credu, yn anochel i raddau helaeth. Beth sydd o'i le ar roi gwasanaethau penodol allan ar gontract os gallwch gyflawni'r swyddogaethau hynny'n fwy costeffeithiol, gan roi mwy o arian i chi ei ddefnyddio ar rannau eraill o'r gwasanaeth sy'n parhau yn y sector cyhoeddus?
Mae gan wledydd eraill yn Ewrop systemau iechyd cymysg ac nid ydynt yn cael y ddadl gyntefig hon a gawn yn y wlad hon rhwng y preifat a'r cyhoeddus. Er mwyn datrys yr anghenion iechyd cymhleth a'r cymhlethdodau ariannol mwy cymhleth fyth, efallai, y tu ôl i'w hariannu, maent yn cydnabod bod angen inni gael system fwy hyblyg sy'n gallu denu mwy o arian i mewn. Rhaid perswadio pobl i wario mwy o'u harian eu hunain, os na all y Llywodraeth ei drethu ganddynt; yn y pen draw, dyna yw'r ffordd o gael gwell gwasanaethau iechyd.
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Diolch yn fawr, Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddweud wrth y Siambr fod y Gweinidog iechyd mewn cyfarfod COBRA am y coronafeirws, felly dyna pam rwy'n cymryd ei le.
Ar y cychwyn, hoffwn ddiolch eto i staff ar draws GIG Cymru, gofal cymdeithasol a'r holl bartneriaid eraill, sy'n parhau i weithio bob dydd i ddarparu gofal i bobl Cymru. Mae eu hymroddiad i barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn yr amgylchedd prysuraf, mwyaf anodd a gofnodwyd erioed yn anhygoel, a gwn ein bod i gyd am gydnabod hynny.
Yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog ar bwysau ar ofal heb ei drefnu, dywedodd fod y galw ar draws y system gyfan dros y gaeaf eleni wedi bod yn fwy nag a welwyd erioed, ac rwy'n credu bod y galw di-baid hwnnw wedi'i weld ar draws y DU i gyd. Fe ddechreuaf gyda'r gwasanaeth ambiwlans. Wrth gwrs, rydym yn siomedig na allodd gwasanaeth ambiwlans Cymru gyrraedd y targed cenedlaethol am yr ail fis, ond mae'n bwysig cofio bod hyn yn erbyn cefndir o gyflawniad dros y 48 mis blaenorol. Er na chyflawnwyd y targed o ran canrannau, cafodd mwy o bobl ymateb o fewn y targed wyth munud o'i gymharu â Rhagfyr 2018, a'r rheswm am hyn yw'r cynnydd yn y niferoedd. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Gweinidog nifer o gamau i wella argaeledd ambiwlansys, a bydd hyn yn cynnwys sefydlu tasglu gweinidogol ar argaeledd gwasanaeth ambiwlans. Bydd hwn yn canolbwyntio nid yn unig ar ymatebolrwydd y gwasanaeth ambiwlans, ond hefyd ar yr angen am welliannau ehangach i'r system gyfan er mwyn adlewyrchu'r amgylchedd newidiol ac ymateb iddo. Disgwylir i'r tasglu hwn ddarparu safbwyntiau cynnar erbyn diwedd mis Mawrth 2020, a bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y datblygiadau hynny.
Gwelwyd ffactorau ychwanegol y tu allan i ofal heb ei drefnu sydd wedi cael effaith wirioneddol ar berfformiad. Un maes o'r fath yw newidiadau i drethi a phensiynau Llywodraeth y DU, ac mae'r rhain yn parhau i effeithio'n sylweddol ar argaeledd staff meddygol i gyflawni cynlluniau gofal wedi'u trefnu a gytunwyd yn flaenorol. Dros y tair blynedd diwethaf, ar ofal wedi'i gynllunio, gwelsom welliannau sylweddol o ran lleihau amseroedd aros hir, gyda gostyngiad o 20 y cant o'n pwynt uchaf yn 2015. Fodd bynnag, oherwydd y newidiadau i drethi a phensiynau, ein gwybodaeth ddiweddaraf yw bod tua 3,200 o sesiynau wedi'u colli rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2019 gan effeithio ar bron 27,000 o gleifion mewn gofal wedi'i gynllunio. Ac rydym hefyd wedi colli sesiynau mewn gofal heb ei drefnu a meddygon teulu y tu allan i oriau am yr un rhesymau. Mae'r Gweinidog wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i ddatrys y mater hwn ar frys. Mae'r broblem yn ganlyniad uniongyrchol i reolau treth Llywodraeth y DU, a theimlir y niwed i'n GIG ar draws y DU yn ei gyfanrwydd. Rydym yn poeni'n fawr am golli ewyllys da cenhedlaeth o staff.
Nid ydym eisiau amseroedd aros hir, ac rydym yn parhau i fuddsoddi arian i gefnogi gwelliannau. Fodd bynnag, nid yw hyn yn unigryw i Gymru, ac effeithir ar rannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd. Mae'r ffigurau diweddaraf gan GIG Lloegr yn dangos eu perfformiad gwaethaf o ran perfformiad pedair awr adrannau damweiniau ac achosion brys, y nifer uchaf o rai'n aros am 12 awr, y perfformiad gwaethaf o ran amseroedd atgyfeirio i driniaeth o fewn 18 wythnos, ac nid ydynt wedi cyrraedd eu targedau canser brys ers mis Rhagfyr 2015. Mae perfformiad yr Alban wedi wynebu trafferthion hefyd, gyda pherfformiad damweiniau ac achosion brys pedair awr 6 phwynt canran yn is na'r hyn ydoedd o gymharu â'r un cyfnod y llynedd, a'r isaf a fu ers mis Rhagfyr 2017. Felly, rwy'n gwneud y pwynt er mwyn nodi bod hyn yn rhywbeth sy'n effeithio ar y DU gyfan, ac effeithir arno gan gynnydd enfawr yn y galw.
Yn achos perfformiad canser, rydym yn parhau i drin mwy o gleifion o fewn y targed bob blwyddyn. Yn y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2019, dechreuodd bron i 8,200 o bobl ar driniaeth frys benodol yn sgil amheuaeth o ganser, 3 y cant yn uwch na'r flwyddyn flaenorol, a dechreuodd 18 y cant yn fwy o bobl na phum mlynedd yn ôl ar driniaeth benodol o fewn yr amser targed. Bydd y llwybr canser sengl yn pennu mesur mwy defnyddiol, cywir a gonest yn lle'r hen fesurau maes o law.
Mae pwysau ar ofal heb ei drefnu hefyd wedi effeithio ar lawdriniaeth ddewisol. Fodd bynnag, lliniarodd byrddau iechyd yr effaith ar ofal dewisol drwy leihau gweithgarwch wedi'i gynllunio yn fwriadol yn ystod pythefnos gyntaf mis Ionawr i gefnogi'r galw am dderbyniadau brys. Caiff pob claf ei asesu ar sail ei angen clinigol. Os oes angen, efallai y bydd yn rhaid gohirio derbyniadau wedi'u cynllunio—a gwyddom eu bod wedi'u gohirio—ond darperir gofal yn ddiweddarach. Mae unrhyw ohiriadau yn ddewis olaf er mwyn sicrhau bod diogelwch cleifion yn cael ei gynnal a'i flaenoriaethu. Ac er gwaethaf y pwysau ar ofal heb ei drefnu, parhaodd y gweithgarwch gofal wedi'i gynllunio ledled Cymru yn nyddiau cynnar mis Ionawr 2020, gydag oddeutu 70 y cant o'r gweithgarwch a gynlluniwyd wedi'i gyflawni gan ddal i ateb y galw brys.
Dechreuodd y cynllunio ar gyfer gaeaf 2019-20 yn gynnar yn 2019, wedi'i lywio gan yr adolygiad o gadernid iechyd a gofal cymdeithasol dros aeaf 2018-19. Fel y crybwyllodd Aelodau yn y Siambr heddiw, rhyddhaodd y Gweinidog £30 miliwn i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol—yn gynharach yn y flwyddyn nag erioed o'r blaen, ar eu cais hwy—i gefnogi cynlluniau ar gyfer y gaeaf. Ac am y tro cyntaf, fe wnaethom ddewis dyrannu rhan sylweddol o'r cyllid i fyrddau partneriaeth rhanbarthol. Nod hyn oedd sicrhau bod byrddau iechyd a phartneriaid awdurdodau lleol yn cydweithio â phartneriaid eraill i gynllunio gwasanaethau ar y cyd ar draws y gymuned iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hynny'n adleisio rhai o'r sylwadau a wnaethpwyd yn y Siambr yma heddiw gydag Angela Burns yn sôn am y rhwystr artiffisial rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, a Jenny Rathbone hefyd yn cyfeirio at lawer o'r prosiectau a ddefnyddir i fynd i'r afael â'r broblem honno. Rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig iawn: rhaid inni fynd i'r afael â'r broblem hon. Nod ein cronfeydd trawsnewid yw dod ag iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd a cheisio trin y system gyfan mewn ffordd fwy cyfannol.
Hefyd, dyrannodd y Gweinidog £10 miliwn ychwanegol yr wythnos diwethaf i ychwanegu capasiti ar draws y system ac i helpu i leddfu'r pwysau ar wasanaethau er mwyn gwella llif drwy ysbytai ac i mewn i ofal cymdeithasol. Ac fel gyda'r £30 miliwn, cafodd hyn ei ariannu drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol i annog cydweithio ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Siaradais â llawer o'r bobl sy'n rhan o'r byrddau partneriaeth rhanbarthol, a dywedant wrthyf fod y gwaith partneriaeth yn datblygu a'i fod yn dod yn llawer cryfach, a chredaf mai dyma lle rydym yn mynd i weld y trawsnewid sydd ei angen arnom yn ein gwasanaethau. Mae cynlluniau'r gaeaf y cytunwyd arnynt rhwng partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol yn cydnabod pwysigrwydd atal a'r angen am weithio mewn partneriaeth effeithiol. Rwy'n credu bod y buddsoddiad drwy bartneriaethau rhanbarthol yn egluro ein bod yn gweld iechyd a gofal cymdeithasol fel partneriaid go iawn.
Comisiynwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i gynhyrchu strategaeth ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cafodd y strategaeth honno ei chymeradwyo gan y ddau fwrdd ym mis Rhagfyr y llynedd a'i chyflwyno i Lywodraeth Cymru, ac rydym yn awr yn ystyried y strategaeth a'r broses o'i gweithredu wedyn. Mae prosesau recriwtio byrddau iechyd yn parhau i fod yn fater gweithredol, ac maent wedi bod yn glir ynglŷn â sicrhau nad yw'r camau a gymerir yn effeithio ar ofal cleifion nac ar ansawdd y gwasanaeth. Mae recriwtio staff nyrsio a staff meddygol yn parhau fel y bo'r angen i ddarparu gwasanaethau diogel.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £0.5 biliwn ychwanegol yn y GIG eleni. Gwelsom ostyngiad o 35 y cant yn niffyg sylfaenol y GIG rhwng 2016-17 a 2018-19, ac rydym yn disgwyl gweld gwelliannau pellach yn y flwyddyn hon, gan arddangos gwell rheolaeth ariannol. Gwrandewais ar yr holl sylwadau gan Aelodau unigol yn y ddadl hon ac rwyf wedi'u nodi'n ofalus. Gallaf eich sicrhau ein bod eisiau dweud yn glir iawn fod ein grym—y bobl sy'n gweithio yn ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol—yn ymwybodol o'n hymrwymiad a'n diolch iddynt. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Diolch am ymateb y Dirprwy Weinidog. Dwi'n teimlo drostoch chi, mewn llawer o ffyrdd, yn gorfod amddiffyn yr anamddiffynadwy yn fan hyn. Cyfres o esgusodion a sbin ydw i'n ei glywed, mae gen i ofn, gan y Llywodraeth, hynny ydy, yn mynd drwy’r targedau mae hi’n honni sy’n cael eu cyrraedd a’r heriau trwm yma sy’n digwydd yn ystod y gaeaf. Wrth gwrs bod yna bwysau gaeaf, ond adeiladwch i mewn i’r system y capasiti i ymateb i’r pwysau yna yn ystod y gaeaf. Rydym ni, fel pwyllgor iechyd dros y blynyddoedd, wedi bod yn argymell i’r Llywodraeth adeiladu’r capasiti yna ar yr adeg yna o’r flwyddyn. Efallai bod pethau wedi bod yn waeth na’r arfer y Nadolig yma. Dwi’n clywed tystiolaeth, o bosib, ei fod o. Wel, mae angen yr hyblygrwydd yna yn ein system ni neu does gennym ni ddim system sydd yn gynaliadwy. Dŷn ni’n gwybod nad ydy hi’n gynaliadwy.
Diolch am y cyfraniadau unigol. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, ydy, mae’n groundhog day yma. Dwi’n synnu eich clywed chi’n gwadu impact llymder. Toriadau sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf dan arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, ac mae hynny’n gorfod cael impact.
Ond ar welliant 3—os caf fi ddod yn ôl at welliant 3—rydych chi’n tynnu allan o’n cynnig ni y darn sydd yn dweud,
'yn gresynu nad yw gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u hariannu'n ddigonol'
Onid ydym ni’n cytuno bod gofal cymdeithasol wedi cael ei dangyllido? O bosib mai embaras sydd gennych chi fel plaid am yr effaith gafodd penderfyniadau gan Lywodraethau Ceidwadol yn San Steffan ar y gwasanaeth iechyd oherwydd toriadau i wasanaethau cymdeithasol yn Lloegr.
Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Gadewch i mi fod yn glir iawn, rydych yn dweud
'yn gresynu nad yw gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u hariannu'n ddigonol ar draul y GIG' a cheisiais ei gwneud yn gwbl glir, yn ein barn ni, ei fod yn ymwneud â sicrhau bod y GIG, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, i gyd yn cael eu gweld yn eu cyfanrwydd, a dyna yr aethom ymlaen i'w wneud yng ngwelliant 4; rydym yn ceisio ei gryfhau. Mae'n anodd iawn. Mae £8 biliwn eisoes yn mynd tuag at y GIG/gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n ymwneud ag adleoli'r arian hwnnw mewn modd llawer mwy effeithiol fel ein bod yn atal syndrom y drysau troi.
Ond y pwynt rwy'n ei wneud yw bod yn rhaid inni anelu at adleoli'r arian hwnnw o iechyd i ofal cymdeithasol; dyna'r ail-gydbwyso y mae angen inni weithio tuag ato.
Diolch i Llyr am wneud sylwadau ynglŷn â chyflwr y gwasanaeth yn y gogledd a rhoi ffocws ar hynny. Beth sy’n drawiadol, wrth gwrs, ydy mai dyma'r bwrdd lle mae gan Lywodraeth Cymru y cyfrifoldeb mwyaf a’r dylanwad mwyaf drosto fo.
Dwi’n cytuno’n llwyr efo’r Aelod dros Ganol Caerdydd ynglŷn â’r angen i edrych ar beth allwn ni ei wneud, a dyna pam rydym ni’n canolbwyntio ar wahanol elfennau, fel yr angen i godi safonau rheolaeth o fewn y gwasanaeth iechyd, ac edrych o ddifrif ar sut i roi arian i mewn i’r agenda trawsnewidiol.
Diolch i’r rhai sydd wedi gwneud sylwadau ynglŷn â'r sefyllfa yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar hyn o bryd—sefyllfa, wrth gwrs, sydd wedi cael cryn sylw oherwydd bod yna benderfyniadau yn cael eu gwneud rŵan sydd wedi cael eu cymryd unwaith nôl yn 2014—iawn, cafon nhw mo’u gweithredu. Dŷch chi’n dweud, Mick Antoniw, bod Llafur wedi gwarchod ac wedi atal cau A&E bryd hynny, wrth gwrs. Mi gafodd y penderfyniad ei wneud i israddio A&E, a chafodd o mo’i weithredu. Mae’r bygythiad wedi parhau yno. A dwi’n meddwl enghraifft arall ydy hyn o’r methiant i fod yn strategol ac i edrych ar yr ysbyty hwnnw neu unrhyw ran o'r gwasanaeth iechyd i feddwl go iawn pa rôl mae hwn yn ei chwarae o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru drwyddo draw.
I gloi, mae’r gwrthdaro rydym ni wedi‘i glywed yn ôl ac ymlaen rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr ynglŷn â phenderfyniadau gwariant yn Whitehall nôl rhwng 2008 a 2010 yn adrodd cyfrolau. Oes, mae yna gyd-destun ehangach o lle mae arian yn dod ac ati. Ydw, dwi’n condemnio dyfnder y toriadau dwfn mewn gwariant cyhoeddus dros y ddegawd ddiwethaf, ond oherwydd nad dim ond arian sydd wrth wraidd problemau’r NHS yng Nghymru, dwi’n condemnio hefyd diffyg rheolaeth y Blaid Lafur o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. A dwi ddim yn gweld arwyddion o le mae’r Llywodraeth yma yn mynd i sylweddoli, 'Dŷch chi’n gwybod beth? Dŷn ni yn methu; dŷn ni angen cyfaddef ein bod ni’n methu ar yr NHS yng Nghymru.' Allwn ni ddim rhoi Llywodraeth mewn mesurau arbennig, ond mi allwn ni newid Llywodraeth. Dydy Llafur ddim yn gallu rhedeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Rydym ni’n gwybod o’r profiad yn Lloegr bod y Ceidwadwyr wedi chwalu'r NHS yn y fan honno. Rhowch gyfle i Blaid Cymru a gadewch i ni edrych ar roi y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar sylfeini mwy cadarn a chynaliadwy, fel bod y staff o fewn yr NHS a chleifion yr NHS yng Nghymru yn cael y gefnogaeth maen nhw eu hangen.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.