7. Dadl Plaid Cymru: Perfformiad y GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 29 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:45, 29 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae fel pe na bai argyfwng ariannol 2010-11 erioed wedi digwydd. Ar un olwg, mae'r Aelodau'n iawn, wrth gwrs, fod y GIG yn cael ei thanariannu ym mhobman. Bob blwyddyn, mae'n rhaid iddo gystadlu, o ystyried ei fod yn fonolith wedi'i wladoli, pan ddaw'r gyllideb a chylch gwariant y Llywodraeth. Rhaid iddo gystadlu â'r holl flaenoriaethau gwariant eraill sydd gan Lywodraethau. Felly, mae'n rhwym o gael ei danariannu hyd dragwyddoldeb, o'i gymharu â'r anghenion y mae'n rhaid iddo ymdrin â hwy. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw pa mor dda y defnyddiwch yr arian sydd gennych. Ac rwy'n ofni, os ydym am farnu datganoli yn ôl ei ganlyniadau, rhaid inni ddod i'r casgliad fod datganoli wedi methu.