Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 29 Ionawr 2020.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n bleser gwneud y cynnig yn ffurfiol, cynnig yn enw Siân Gwenllian. Mi oedd hi'n demtasiwn mawr heddiw yma i atgyfodi neu ail-bobi hen araith ar gyfer y ddadl yma, oherwydd er fy mod i wedi bod i ffwrdd oddi wrth y portffolio iechyd ers rhyw flwyddyn a hanner, mae yna lawer gormod o bethau, dwi'n ofni, sydd ddim wedi newid yn fy absenoldeb.