Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 29 Ionawr 2020.
Diolch yn fawr, Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddweud wrth y Siambr fod y Gweinidog iechyd mewn cyfarfod COBRA am y coronafeirws, felly dyna pam rwy'n cymryd ei le.
Ar y cychwyn, hoffwn ddiolch eto i staff ar draws GIG Cymru, gofal cymdeithasol a'r holl bartneriaid eraill, sy'n parhau i weithio bob dydd i ddarparu gofal i bobl Cymru. Mae eu hymroddiad i barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn yr amgylchedd prysuraf, mwyaf anodd a gofnodwyd erioed yn anhygoel, a gwn ein bod i gyd am gydnabod hynny.
Yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog ar bwysau ar ofal heb ei drefnu, dywedodd fod y galw ar draws y system gyfan dros y gaeaf eleni wedi bod yn fwy nag a welwyd erioed, ac rwy'n credu bod y galw di-baid hwnnw wedi'i weld ar draws y DU i gyd. Fe ddechreuaf gyda'r gwasanaeth ambiwlans. Wrth gwrs, rydym yn siomedig na allodd gwasanaeth ambiwlans Cymru gyrraedd y targed cenedlaethol am yr ail fis, ond mae'n bwysig cofio bod hyn yn erbyn cefndir o gyflawniad dros y 48 mis blaenorol. Er na chyflawnwyd y targed o ran canrannau, cafodd mwy o bobl ymateb o fewn y targed wyth munud o'i gymharu â Rhagfyr 2018, a'r rheswm am hyn yw'r cynnydd yn y niferoedd. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Gweinidog nifer o gamau i wella argaeledd ambiwlansys, a bydd hyn yn cynnwys sefydlu tasglu gweinidogol ar argaeledd gwasanaeth ambiwlans. Bydd hwn yn canolbwyntio nid yn unig ar ymatebolrwydd y gwasanaeth ambiwlans, ond hefyd ar yr angen am welliannau ehangach i'r system gyfan er mwyn adlewyrchu'r amgylchedd newidiol ac ymateb iddo. Disgwylir i'r tasglu hwn ddarparu safbwyntiau cynnar erbyn diwedd mis Mawrth 2020, a bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y datblygiadau hynny.
Gwelwyd ffactorau ychwanegol y tu allan i ofal heb ei drefnu sydd wedi cael effaith wirioneddol ar berfformiad. Un maes o'r fath yw newidiadau i drethi a phensiynau Llywodraeth y DU, ac mae'r rhain yn parhau i effeithio'n sylweddol ar argaeledd staff meddygol i gyflawni cynlluniau gofal wedi'u trefnu a gytunwyd yn flaenorol. Dros y tair blynedd diwethaf, ar ofal wedi'i gynllunio, gwelsom welliannau sylweddol o ran lleihau amseroedd aros hir, gyda gostyngiad o 20 y cant o'n pwynt uchaf yn 2015. Fodd bynnag, oherwydd y newidiadau i drethi a phensiynau, ein gwybodaeth ddiweddaraf yw bod tua 3,200 o sesiynau wedi'u colli rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2019 gan effeithio ar bron 27,000 o gleifion mewn gofal wedi'i gynllunio. Ac rydym hefyd wedi colli sesiynau mewn gofal heb ei drefnu a meddygon teulu y tu allan i oriau am yr un rhesymau. Mae'r Gweinidog wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i ddatrys y mater hwn ar frys. Mae'r broblem yn ganlyniad uniongyrchol i reolau treth Llywodraeth y DU, a theimlir y niwed i'n GIG ar draws y DU yn ei gyfanrwydd. Rydym yn poeni'n fawr am golli ewyllys da cenhedlaeth o staff.
Nid ydym eisiau amseroedd aros hir, ac rydym yn parhau i fuddsoddi arian i gefnogi gwelliannau. Fodd bynnag, nid yw hyn yn unigryw i Gymru, ac effeithir ar rannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd. Mae'r ffigurau diweddaraf gan GIG Lloegr yn dangos eu perfformiad gwaethaf o ran perfformiad pedair awr adrannau damweiniau ac achosion brys, y nifer uchaf o rai'n aros am 12 awr, y perfformiad gwaethaf o ran amseroedd atgyfeirio i driniaeth o fewn 18 wythnos, ac nid ydynt wedi cyrraedd eu targedau canser brys ers mis Rhagfyr 2015. Mae perfformiad yr Alban wedi wynebu trafferthion hefyd, gyda pherfformiad damweiniau ac achosion brys pedair awr 6 phwynt canran yn is na'r hyn ydoedd o gymharu â'r un cyfnod y llynedd, a'r isaf a fu ers mis Rhagfyr 2017. Felly, rwy'n gwneud y pwynt er mwyn nodi bod hyn yn rhywbeth sy'n effeithio ar y DU gyfan, ac effeithir arno gan gynnydd enfawr yn y galw.
Yn achos perfformiad canser, rydym yn parhau i drin mwy o gleifion o fewn y targed bob blwyddyn. Yn y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2019, dechreuodd bron i 8,200 o bobl ar driniaeth frys benodol yn sgil amheuaeth o ganser, 3 y cant yn uwch na'r flwyddyn flaenorol, a dechreuodd 18 y cant yn fwy o bobl na phum mlynedd yn ôl ar driniaeth benodol o fewn yr amser targed. Bydd y llwybr canser sengl yn pennu mesur mwy defnyddiol, cywir a gonest yn lle'r hen fesurau maes o law.
Mae pwysau ar ofal heb ei drefnu hefyd wedi effeithio ar lawdriniaeth ddewisol. Fodd bynnag, lliniarodd byrddau iechyd yr effaith ar ofal dewisol drwy leihau gweithgarwch wedi'i gynllunio yn fwriadol yn ystod pythefnos gyntaf mis Ionawr i gefnogi'r galw am dderbyniadau brys. Caiff pob claf ei asesu ar sail ei angen clinigol. Os oes angen, efallai y bydd yn rhaid gohirio derbyniadau wedi'u cynllunio—a gwyddom eu bod wedi'u gohirio—ond darperir gofal yn ddiweddarach. Mae unrhyw ohiriadau yn ddewis olaf er mwyn sicrhau bod diogelwch cleifion yn cael ei gynnal a'i flaenoriaethu. Ac er gwaethaf y pwysau ar ofal heb ei drefnu, parhaodd y gweithgarwch gofal wedi'i gynllunio ledled Cymru yn nyddiau cynnar mis Ionawr 2020, gydag oddeutu 70 y cant o'r gweithgarwch a gynlluniwyd wedi'i gyflawni gan ddal i ateb y galw brys.
Dechreuodd y cynllunio ar gyfer gaeaf 2019-20 yn gynnar yn 2019, wedi'i lywio gan yr adolygiad o gadernid iechyd a gofal cymdeithasol dros aeaf 2018-19. Fel y crybwyllodd Aelodau yn y Siambr heddiw, rhyddhaodd y Gweinidog £30 miliwn i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol—yn gynharach yn y flwyddyn nag erioed o'r blaen, ar eu cais hwy—i gefnogi cynlluniau ar gyfer y gaeaf. Ac am y tro cyntaf, fe wnaethom ddewis dyrannu rhan sylweddol o'r cyllid i fyrddau partneriaeth rhanbarthol. Nod hyn oedd sicrhau bod byrddau iechyd a phartneriaid awdurdodau lleol yn cydweithio â phartneriaid eraill i gynllunio gwasanaethau ar y cyd ar draws y gymuned iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hynny'n adleisio rhai o'r sylwadau a wnaethpwyd yn y Siambr yma heddiw gydag Angela Burns yn sôn am y rhwystr artiffisial rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, a Jenny Rathbone hefyd yn cyfeirio at lawer o'r prosiectau a ddefnyddir i fynd i'r afael â'r broblem honno. Rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig iawn: rhaid inni fynd i'r afael â'r broblem hon. Nod ein cronfeydd trawsnewid yw dod ag iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd a cheisio trin y system gyfan mewn ffordd fwy cyfannol.
Hefyd, dyrannodd y Gweinidog £10 miliwn ychwanegol yr wythnos diwethaf i ychwanegu capasiti ar draws y system ac i helpu i leddfu'r pwysau ar wasanaethau er mwyn gwella llif drwy ysbytai ac i mewn i ofal cymdeithasol. Ac fel gyda'r £30 miliwn, cafodd hyn ei ariannu drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol i annog cydweithio ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Siaradais â llawer o'r bobl sy'n rhan o'r byrddau partneriaeth rhanbarthol, a dywedant wrthyf fod y gwaith partneriaeth yn datblygu a'i fod yn dod yn llawer cryfach, a chredaf mai dyma lle rydym yn mynd i weld y trawsnewid sydd ei angen arnom yn ein gwasanaethau. Mae cynlluniau'r gaeaf y cytunwyd arnynt rhwng partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol yn cydnabod pwysigrwydd atal a'r angen am weithio mewn partneriaeth effeithiol. Rwy'n credu bod y buddsoddiad drwy bartneriaethau rhanbarthol yn egluro ein bod yn gweld iechyd a gofal cymdeithasol fel partneriaid go iawn.
Comisiynwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i gynhyrchu strategaeth ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cafodd y strategaeth honno ei chymeradwyo gan y ddau fwrdd ym mis Rhagfyr y llynedd a'i chyflwyno i Lywodraeth Cymru, ac rydym yn awr yn ystyried y strategaeth a'r broses o'i gweithredu wedyn. Mae prosesau recriwtio byrddau iechyd yn parhau i fod yn fater gweithredol, ac maent wedi bod yn glir ynglŷn â sicrhau nad yw'r camau a gymerir yn effeithio ar ofal cleifion nac ar ansawdd y gwasanaeth. Mae recriwtio staff nyrsio a staff meddygol yn parhau fel y bo'r angen i ddarparu gwasanaethau diogel.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £0.5 biliwn ychwanegol yn y GIG eleni. Gwelsom ostyngiad o 35 y cant yn niffyg sylfaenol y GIG rhwng 2016-17 a 2018-19, ac rydym yn disgwyl gweld gwelliannau pellach yn y flwyddyn hon, gan arddangos gwell rheolaeth ariannol. Gwrandewais ar yr holl sylwadau gan Aelodau unigol yn y ddadl hon ac rwyf wedi'u nodi'n ofalus. Gallaf eich sicrhau ein bod eisiau dweud yn glir iawn fod ein grym—y bobl sy'n gweithio yn ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol—yn ymwybodol o'n hymrwymiad a'n diolch iddynt. Diolch.