Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 4 Chwefror 2020.
Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Roeddwn i'n falch iawn o glywed am y pecyn o fesurau a ddygwyd ynghyd o dan yr agenda trawsnewid trefi, ac maen nhw'n dangos, rwy'n credu, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i drefi fel Aberpennar ac Aberdâr yn fy etholaeth i.
Nawr, gyda fy niddordeb mewn treth ar dir gwag, ni fydd yn syndod i chi fy mod i'n croesawu'n arbennig y cyllid ychwanegol o £13.6 miliwn i fynd i'r afael ag adeiladau a thir gwag sydd wedi dadfeilio. A all y Prif Weinidog ddweud ychydig mwy am hyn, yn enwedig yng nghyd-destun yr ymgynghoriad diweddar ar orchmynion prynu gorfodol, a fydd yn rhoi mwy o bwerau i awdurdodau lleol fwrw ymlaen â hyn a mynd i'r afael â malltod trefol?