Mawrth, 4 Chwefror 2020
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein agenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Carwyn Jones.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y diwygiadau i gymorth i fyfyrwyr mewn prifysgolion? OAQ55044
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi plant sydd mewn tlodi yng Nghymru? OAQ55025
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adfywio trefi yng Nghymru? OAQ55028
4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyfforddi a recriwtio ymgynghorwyr meddygol ar gyfer ysbytai? OAQ55057
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu'r gronfa gofal integredig? OAQ55058
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth ar gyfer damweiniau ac achosion brys yng Nghanol De Cymru? OAQ55023
7. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch statws cyfansoddiadol Cymru o fewn y Deyrnas Unedig? OAQ55041
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau darpariaeth ddigonol o wasanaethau meddygon teulu yn Nwyrain De Cymru? OAQ55063
Yr eitem nesaf fyddai wedi bod y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, ond ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau yr wythnos yma.
Felly, yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rwy'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad. Rebecca Evans.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: yr wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Rhyng-Weinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol....
Eitem 5 ar yr agenda yw Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2020. Ac rwy'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.
Symudwn ymlaen nawr at eitem 6, sy'n ddadl ar gyllideb ddrafft 2020-21, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Caroline Jones. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
A dyma ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n symud i'r bleidlais. Mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y gyllideb ddrafft, a dwi'n galw...
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer twristiaeth yng Nghymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia