Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 4 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:57, 4 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Wrth greu'r GIG ym 1948, enillodd Aneurin Bevan ddadl o amgylch bwrdd y Cabinet, yn erbyn rhai fel Herbert Morrison, bod yn rhaid i fyrddau rhanbarthol yn y GIG fod yn atebol i Weinidog iechyd, a gweithio o dan ei gyfarwyddyd, neu fel arall ni fyddai'n wasanaeth iechyd gwladol, a dyna pam y cafwyd y dyfyniad enwog apocryffaidd am bedyll gwelyau yn cael eu gollwng yn Nhredegar yn atseinio yng nghoridorau Whitehall.

Mae eich dadl ddoe bod y penderfyniad ynghylch pa un a ddylid israddio gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn fater i glinigwyr yn bennaf ac nid gwleidyddion yn mynd yn groes i egwyddorion sylfaenol y GIG, mae'n mynd yn groes i egwyddorion sylfaenol y Senedd hon ac mae hyd yn oed yn mynd yn groes i werthoedd craidd eich plaid eich hun, a dyna pam y mae cynifer o'ch Aelodau eich hun yn ymuno â Phlaid Cymru ac eraill i anwybyddu eich cyngor i brotestio yn erbyn y newidiadau hyn. Onid oes gan bobl y Rhondda, y Cymoedd canolog ac, yn wir, gweddill Cymru yr hawl i ddisgwyl cael Prif Weinidog a fydd yn ymyrryd ar eu rhan, yn hytrach na dim ond dweud, 'Dim byd i'w wneud â mi'?