Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 4 Chwefror 2020.
Darren Millar, mae'n ddrwg gen i eich enwi chi, ond mae'n ymddangos mai chi yw'r person mwyaf uchel eich cloch yn y Siambr y prynhawn yma. Gadewch i'r Prif Weinidog ymateb i Blaid Cymru. Fe wnes i ganiatáu i chi barhau gyda'ch sylwadau yn ystod cwestiynau gan eich arweinydd eich hun, ond ni wnaf i ganiatáu iddo barhau yn ystod cwestiynau gan arweinydd plaid arall. Adam Price—mae'n ddrwg gen i, roedd y Prif Weinidog yn ateb.