Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 4 Chwefror 2020.
Diolch. Wrth gwrs, nid fi sy'n dweud y pethau hyn, ond y cwmnïau ceir, fel yr adroddwyd yn y Financial Times. Ond ni ddylai fod yn syndod, pan fo'r UE yn gwerthu gwerth £265 biliwn o nwyddau i ni, a'n bod ni ddim ond yn gwerthu gwerth £170 biliwn o nwyddau iddyn nhw, os byddwch chi'n gwneud masnach yn ddrytach trwy dariffau, y byddai'r broses gynhyrchu yn adleoli ar sail net o'r UE i'r DU yng ngoleuni'r tariffau hynny. Byddai'n well gen i weld masnach rydd a byddwn hefyd yn cefnogi'n fras, rwy'n credu, yr hyn y mae'r Prif Weinidog newydd ei ddweud; rwy'n credu y bu awgrymiadau yn flaenorol o Lywodraeth y DU yn gorfod cytuno ar ei dull o weithredu, ond i'r graddau yr oedd y Prif Weinidog yn sôn amdanyn nhw nawr— ymgynghori—rwy'n ei gefnogi yn hynny o beth, ac yn cytuno y byddai sefyllfa Llywodraeth y DU yn cryfhau pe byddai cefnogaeth eang i'w safbwynt negodi.
Fodd bynnag, byddwn yn rhybuddio'r Prif Weinidog rhag tybio y byddai'n cael cefnogaeth yng Nghymru i wrthwynebu Llywodraeth y DU ar y mater hwn. Rydym ni'n cael ein hatgoffa heddiw bod cefnogaeth i ddiddymu'r lle hwn yn fwy na'r gefnogaeth i annibyniaeth, ac eto mae eich Gweinidog, Ken Skates, newydd ysgrifennu at Aelodau Seneddol i ddweud wrthyn nhw am newid datganoli rheilffyrdd—ac rwy'n dyfynnu—i fynd i'r afael â phryderon sy'n cael eu codi gan y mudiadau annibyniaeth sy'n tyfu yng Nghymru ac yn yr Alban.
Prif Weinidog, siawns ei bod hi'n afresymol i roi pwysau ar Lywodraeth y DU fel pe byddech chi'n Nicola Sturgeon Caerdydd.