Adfywio Trefi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 4 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:07, 4 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Un cam hanfodol tuag at adfywio canol trefi yw cymryd camau pendant i ymdrin â malltod erchyll digartrefedd sy'n achosi cymaint o ddioddefaint mawr i bobl agored i niwed ac sy'n cael effaith amlwg iawn ar ganol trefi a chanol dinasoedd. Nawr, mae ffigurau newydd ar ddigartrefedd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw yn dangos cynnydd i'r niferoedd sy'n cysgu ar y stryd. Rwy'n gwybod mai dim ond cipolwg yw hwn, ond maen nhw'n awgrymu cynnydd o tua 20 y cant yn ystod cyfnod o bythefnos ym mis Hydref 2019 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ac rwy'n sylwi bod Casnewydd a Chaerffili yn gwneud yn arbennig o wael.

Nawr, Prif Weinidog, nid gwneud pobl ddigartref agored i niwed yn droseddwyr yw'r ateb, does bosib, a chymryd eu heiddo prin oddi arnyn nhw, fel y mae rhai cynghorau yn ei wneud, ond siawns mai'r ateb yw ariannu gwasanaethau digartrefedd yn briodol a gweithredu cynlluniau cadarn, fel yr un a gynigiwyd gan y sefydliad Crisis. Felly, a allech chi ddweud wrthyf i, os gwelwch yn dda, pa gamau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i ymdrin â'r broblem gynyddol anobeithiol hon o ddigartrefedd ar strydoedd Cymru?