Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 4 Chwefror 2020.
Prif Weinidog, y llynedd, sylwais fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi canfod bod effaith y gronfa gofal integredig o ran gwella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth yn dal yn aneglur ac mai prin oedd y dystiolaeth o brosiectau llwyddiannus yn cael eu prif ffrydio i gyllidebau craidd. Felly, a gaf i ofyn sut mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'r argymhellion a wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru, a pha waith sydd wedi ei wneud i gysoni'n benodol y defnydd o gyllid cyfalaf a refeniw'r gronfa gofal integredig i ddarparu pecynnau gofal a fydd yn gwella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth?