Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 4 Chwefror 2020.
Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Gan nad oedd cwestiynau i'w hateb wedi'u cyflwyno gan y Cwnsler Cyffredinol yr wythnos hon, rwyf wedi diwygio agenda heddiw yn unol â hynny. Yn ogystal â hynny, mae dadl y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi'i thynnu'n ôl o agenda yfory. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymysg papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.