Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 4 Chwefror 2020.
Rwy'n ddiolchgar i Lynne Neagle am godi'r mater hwn y prynhawn yma ac am y ffordd y mae wedi hyrwyddo'r mater arbennig o bwysig hwn dros gyfnod hir yn y Cynulliad. A chawsom ni gyfle i gael dadl ragorol, er nad yn amser y Llywodraeth, yn ddiweddar, ac wrth gwrs mae'r Gweinidog Iechyd wedi bod yma i glywed y cais hwnnw am ddadl ar yr adroddiad penodol hwnnw yn y dyfodol.