Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 4 Chwefror 2020.
Diolch i Dawn Bowden am godi'r hyn sy'n fater hynod bwysig; rwy'n ei gofio o fy nyddiau ym mhortffolio'r gwasanaethau cymdeithasol. Rwy'n gwybod eich bod yn cynrychioli pryderon penodol etholwyr, felly gofynnaf i'r Gweinidog, sef y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol presennol, roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi o ran cynnydd ac, yn amlwg, bydd hi wedi clywed y cais am y datganiad ehangach hwnnw hefyd.FootnoteLink