Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 4 Chwefror 2020.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n rhaid imi ddechrau drwy ymddiheuro. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo Gorchymyn bron yn union yr un fath â hwn o'r blaen. Er hynny, roedd y Gorchymyn a drafodwyd ar 26 Tachwedd y llynedd yn cynnwys camgymeriad, ac fe'i rhwystrwyd rhag dod i rym. Dim ond ar ôl y ddadl y darganfuwyd hyn. Fe gysylltodd fy swyddogion i â swyddogion y Cynulliad i weld a ellid cychwyn drwy ryw ddull arall. Serch hynny, y casgliad y daeth pawb iddo oedd bod y gwall wedi atal yr offeryn yn gyfan gwbl rhag gallu dod i rym. O ganlyniad, yn anffodus, nid oes unrhyw ateb ar gael ar wahân i ailosod yr offeryn. Ysgrifennais at y Llywydd ar 11 Rhagfyr, yn ei hysbysu am y sefyllfa a datgan fy mwriad i osod Gorchymyn diwygiedig, fel y gwnaethom ni nawr. Yn ffodus, nid yw'r newid cyfreithiol yr ydym ni'n ceisio ei gyflwyno yn y Gorchymyn yn dyngedfennol o ran ei amseriad.
Er y bydd yr Aelodau'n gwerthfawrogi bod amgylchiadau'r achos hwn yn anarferol iawn, rwy'n ymwybodol o'r angen i osgoi gwall fel hyn rhag digwydd eto mewn offeryn statudol arall. Gan hynny, rydym wedi cyflwyno gwiriad ychwanegol, gweithdrefn sicrwydd, i'n prosesau mewnol ni, ac rydym wedi rhoi gwybod i'r timau perthnasol sy'n gweithio ar baratoi is-ddeddfwriaeth.
Mae'r Gorchymyn diwygiedig yn cynnwys darpariaeth newydd ar gyfer ei gychwyn. Ym mhob ystyr arall, mae hwn yn hollol yr un fath â'r Gorchymyn a gymeradwywyd gan y Cynulliad fis Tachwedd diwethaf, ar wahân i'r flwyddyn yn y teitl. I grynhoi unwaith eto, mae'r Gorchymyn hwn yn ymwneud â systemau draenio cynaliadwy ar gyfer datblygiadau newydd, a gyflwynwyd yng Nghymru o 7 Ionawr y llynedd. Bydd SDCau, fel y'u gelwir yn fwy cyffredin, yn cynnig sawl budd o ran lleihau perygl llifogydd, amwynder, a bioamrywiaeth. Fe wnaethpwyd y Gorchymyn Gorfodi gwreiddiol i weithredu'r darpariaethau SDCau yn Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. O dan y Ddeddf, mae angen cymeradwyaeth cyn y gall adeiladu systemau draenio ddechrau ar safleoedd newydd. Mae'r Gorchymyn yn gymwys pan nad oes cymeradwyaeth wedi ei rhoi.
Fodd bynnag, mae angen mân ddiwygiad i erthygl 21 o'r Gorchymyn gorfodi i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth orfodi arall. Mae erthygl 21 yn cyfyngu ar y dirwyon y gellir eu pasio mewn achos diannod i uchafswm o £20,000. Fe gafodd y Gorchymyn ei ddrafftio cyn i adran 85 (1) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 gychwyn. Roedd Deddf 2012 yn dileu'r terfyn uchaf ar y dirwyon y gallai llysoedd ynadon eu pasio ar gyfer bron pob trosedd. I sicrhau cysondeb â throseddau tebyg, rydym yn cynnig newid y terfyn o £20,000 i ddirwy yn unig. Fe fyddai hyn yn galluogi llysoedd ynadon i basio dirwy ddiderfyn, sy'n gyson â diwygiadau i ddeddfwriaeth arall a wnaethpwyd gan Ddeddf 2012. Nid yw'r diwygiad arfaethedig yn golygu y bydd unigolion a ddyfarnwyd yn euog o dan y ddeddfwriaeth SDCau yn fwy agored i atebolrwydd, gan fod dirwyon diderfyn wedi bodoli erioed am y drosedd hon yn Llys y Goron. Ond fe fydd hyn yn lleihau'r oedi a'r gost i ddiffynyddion a'r cyhoedd. Rwy'n cymeradwyo'r Gorchymyn i'r Cynulliad.