6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2020-2021

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 4 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:45, 4 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o gael agor y ddadl y prynhawn yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. Mae hyn yn datblygu'r ddadl adeiladol a gawsom yn ystod wythnos gyntaf y sesiwn hon. Ers hynny, mae'r Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau eraill y Cynulliad wedi craffu ar ein cynlluniau gwariant a nodwyd yn y gyllideb ddrafft. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r Pwyllgor Cyllid a'r pwyllgorau eraill am wneud hynny, ac am gyhoeddi eu hadroddiadau yn yr amserlen fyrrach nag arfer fel y cytunwyd cyn y Nadolig.

Mae dadl heddiw yn gyfle i mi ddarparu rhai myfyrdodau cynnar ar yr argymhellion a'r themâu cyffredinol sy'n codi wrth graffu, gan ganolbwyntio'n benodol ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid. Cyn i mi wneud hynny, Llywydd, rwyf eisiau cydnabod y cyd-destun ehangach y datblygwyd y gyllideb hon oddi mewn iddo a'r heriau sy'n parhau, cyn atgoffa'r Aelodau sut y mae'r gyllideb hon yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru.

Fel yr wyf wedi sôn droeon, mae methiant Llywodraeth y DU i gyflawni ei hadolygiad cynhwysfawr o wariant amlflwydd y llynedd yn golygu fy mod i mewn sefyllfa i osod cyllideb refeniw a chyfalaf am un flwyddyn yn unig. Er gwaethaf yr honiadau bod cyni wedi dod i ben, mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2020-21 bron yn £300 miliwn yn is mewn termau real o'i chymharu â 2010-11.

O fewn wythnosau i gadarnhau y bydd cyllideb hir ddisgwyliedig y DU yn cael ei chynnal ar 11 Mawrth, mae Llywodraeth y DU unwaith eto wedi amlygu ei dull gweithredu anhrefnus o reoli arian cyhoeddus. Ychydig dros wythnos cyn i ni gyhoeddi ail gyllideb atodol heddiw, cadarnhaodd Llywodraeth y DU addasiadau cadarnhaol a negyddol i'n cyllideb ar gyfer 2019-20. Roedd y rhan fwyaf o'r symiau canlyniadol cadarnhaol wedi eu cadarnhau gan y Trysorlys yn gynharach yn y flwyddyn, ond nid felly'r gostyngiadau.

O'i gymharu â'r tybiaethau cynllunio yr ydym wedi seilio ein cynlluniau arnynt, canlyniad net y newidiadau hyn yw cynnydd bach mewn refeniw, gyda gostyngiad ar yr un pryd o ychydig dros £100 miliwn o gyllid trafodion ariannol a bron i £100 miliwn o gyfalaf cyffredinol. Mae hyn yn gwbl annerbyniol ar yr adeg hon yn y flwyddyn ariannol heb unrhyw rybudd ymlaen llaw, ac nid dyma'r enghraifft gyntaf, o bell ffordd, o Lywodraeth y DU yn anwybyddu'r egwyddorion a nodir yn y datganiad o bolisi ariannu.

Rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Ysgrifennydd yn gwrthwynebu'n gryf yr egwyddor o wneud y newidiadau hyn mor hwyr yn y dydd. Nid ydym yn eu derbyn, ac rydym wedi pwyso am ragor o eglurder ynglŷn â'r newidiadau ar lefel y DU sy'n arwain at ostyngiadau canlyniadol.

Er gwaethaf hyn, fodd bynnag, rydym wedi cytuno y byddwn ni'n ysgwyddo'r gostyngiadau trafodion ariannol eleni, sy'n rheolaeth ariannol ddarbodus o dan yr amgylchiadau. Rwyf hefyd wedi sicrhau'r hyblygrwydd mwyaf posibl gan y Trysorlys i reoli'r addasiadau eraill wrth i ni symud drwy'r flwyddyn nesaf. Nid yw ein penderfyniad i weithredu fel hyn yn rhagfarnu'r drafodaeth bellach ar y sefyllfa ehangach a'r modd yr ymdriniwyd â'r gostyngiadau a ddygwyd ymlaen.

Ar hyn o bryd, credaf ei bod hefyd yn ddoeth i beidio ag addasu'r cynlluniau gwariant ar gyfer 2020-21 yr wyf wedi eu cyflwyno gerbron y Cynulliad, o ystyried y tebygolrwydd cryf y bydd ein setliad ar gyfer y flwyddyn nesaf yn newid eto ar 11 Mawrth. Fodd bynnag, mae'n atgyfnerthu ein hachos dros hyblygrwydd cyllid ychwanegol a swyddogaeth fwy ffurfiol i'r Gweinidogion cyllid yn y cyfarfod pedairochrog i adolygu'r datganiad o bolisi ariannu—thema a nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid.

Yn ogystal â newidiadau posibl i'n setliad, gallai cyllideb y DU hefyd gynnwys newidiadau i bolisi treth, a allai effeithio ar benderfyniadau ynghylch y trethi datganoledig yng Nghymru. Yn ogystal ag ystyried cynigion i gyflwyno cyllideb atodol gynnar, rwyf wedi ymrwymo i roi diweddariad cynnar ar effaith cyllideb y DU, gan gynnwys yr effeithiau ar ragolygon treth Cymru.

Llywydd, hoffwn droi at y blaenoriaethau gwario a nodir yn y gyllideb hon. Rwy'n falch o bopeth yr ydym ni wedi ei gyflawni fel Llywodraeth, er gwaethaf yr ansicrwydd a'r cyd-destun heriol yr ydym wedi eu hwynebu. Mae pedwaredd gyllideb y Cynulliad hwn, sy'n darparu ar gyfer blwyddyn lawn derfynol y tymor hwn, yn cyflawni'r addewidion gwariant allweddol a wnaethom ni i bobl Cymru yn 2016 ynghylch prentisiaethau pob oed, gwella ysgolion, gofal plant, cymorth i fusnesau bach, sicrhau bod triniaethau newydd ar gael yn gyflym, tai fforddiadwy, a llawer mwy.

Bydd cyfanswm ein buddsoddiad mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy na £8.7 biliwn yn 2020-21, gyda chynnydd uwch na chwyddiant o fwy na £400 miliwn; sy'n darparu cynnydd mewn termau real i bob awdurdod lleol drwy £200 miliwn ychwanegol drwy setliad refeniw a chyfalaf y flwyddyn nesaf, a fydd yn gwneud cyfanswm y cyllid bron yn £4.5 biliwn; ac rydym ni'n cefnogi system addysg o'r radd flaenaf drwy'r setliad Llywodraeth Leol a thrwy ein cyllideb addysg £1.8 biliwn.

Mae atal wedi bod wrth wraidd y gyllideb hon, ac fe'i hategir wrth i ni ganolbwyntio ar wyth o flaenoriaethau trawsbynciol, sef: y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, tai, cyflogadwyedd a sgiliau, gwell iechyd meddwl, datgarboneiddio, tlodi a bioamrywiaeth. Rydym ni'n buddsoddi yn y meysydd lle gallwn ni gael yr effaith fwyaf dros y tymor hir, ac mae hyn yn cynnwys £175 miliwn o gyfalaf ychwanegol y flwyddyn nesaf, gan ddod â'n buddsoddiad i fwy na £2 biliwn mewn tai fforddiadwy yn ystod y tymor Cynulliad hwn; a £19 miliwn ychwanegol i helpu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed sy'n byw mewn tlodi yn ein cymunedau, gan adeiladu ar y gweithredu presennol sy'n gyfanswm o fwy na £1 biliwn; a mwy o fuddsoddi mewn iechyd meddwl gwell a'r blynyddoedd cynnar drwy'r cyllid ychwanegol ar gyfer y dull gweithredu ysgol gyfan a Dechrau'n Deg.

Mae hon yn gyllideb sy'n cyflawni lefel newydd o uchelgais yn y frwydr i ddiogelu dyfodol ein planed, gan adeiladu ar yr ystod eang o fuddsoddiadau yr ydym eisoes yn eu gwneud. Dyna pam, yn y gyllideb gyntaf ers ein datganiad ar argyfwng hinsawdd, yr ydym yn dyrannu pecyn cyfalaf newydd gwerth £140 miliwn i gefnogi ein huchelgais ar gyfer datgarboneiddio ac i amddiffyn ein hamgylchedd gwych.

Llywydd, hoffwn hefyd achub ar y cyfle heddiw i gyflwyno rhai myfyrdodau cynnar ar y themâu allweddol sy'n codi o'r broses graffu. Oherwydd bod y broses o adael yr UE ar waith erbyn hyn, mae pwysigrwydd sicrhau newid didrafferth i fframwaith ariannu ôl-UE y DU sy'n cyflawni ar gyfer pob rhan o'r undeb, yn hanfodol. Croesawaf argymhelliad y pwyllgor sy'n cydnabod yr angen i adolygu'r datganiad o bolisi ariannu, a fydd yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun trefniadau gadael yr UE. Rwyf hefyd yn derbyn argymhelliad y Pwyllgor Cyllid y dylem ni barhau i drafod â Llywodraeth y DU i sicrhau cyfarfodydd pedairochrog mwy rheolaidd a strwythuredig rhwng Gweinidogion cyllid y DU. Mae hwn yn fater y byddaf yn ei godi gyda Gweinidog Cyllid yr Alban a Gweinidog Cyllid Gogledd Iwerddon yfory.

Mae'r rhyngweithio rhwng amserlen ein cyllideb ni ac amserlen Llywodraeth y DU yn fater sydd wedi ei ystyried mewn blynyddoedd blaenorol, ond mae'r agwedd anghysurus hon wedi bod yn amlycach eleni. Rwy'n croesawu'r ffaith fod y pwyllgor yn cydnabod bod ein hymagwedd at amseru'r gyllideb eleni yn ymarferol o dan yr amgylchiadau, ac yn cydbwyso'r angen i roi sicrwydd cyllid cynnar i randdeiliaid gyda'r angen i ddarparu amser ar gyfer craffu ar ein cynlluniau.

Mae parhau i fwrw ymlaen â gwelliannau yn ein cyllidebu hefyd yn ystyriaeth bwysig. Am y tro cyntaf, rydym wedi cyhoeddi cynllun gwella'r gyllideb sy'n nodi sut yr ydym yn bwriadu cymryd camau parhaus i ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ym mhroses y gyllideb. Mae hyn yn cynnwys nifer o feysydd a nodwyd gan y Pwyllgor Cyllid, gan gynnwys gwelliannau i'r ffordd yr ydym ni'n asesu effeithiau ein penderfyniadau ar y gyllideb. Croesawaf ddatganiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru y dylid canmol Cymru am fod ar flaen y gad o ran symud tuag at gyllidebu ar gyfer llesiant, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r comisiynydd wrth i ni fwrw ymlaen â'r cynllun uchelgeisiol hwn.

Rwy'n falch bod y Pwyllgor Cyllid wedi croesawu'r pecyn cyfalaf unigol mwyaf erioed i helpu i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Rwy'n siomedig â'r honiadau nad yw'r camau yr ydym ni'n eu cymryd yn cyd-fynd â'n hymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Bydd y gyllideb ddrafft yn sicrhau buddsoddiad newydd yn y meysydd lle mae'r dystiolaeth gyfredol yn dweud wrthym y gallwn gael yr effaith fwyaf, yn ogystal â buddsoddi mewn mesurau eraill megis £64 miliwn y flwyddyn nesaf i amddiffyn ein cymunedau rhag effeithiau mwyaf difrifol ac uniongyrchol newid yn yr hinsawdd. Byddaf i a'm cydweithwyr yn ymateb yn ffurfiol i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cyllid a rhai pwyllgorau eraill y Cynulliad cyn y bleidlais ar y gyllideb derfynol fis nesaf.

Felly, Llywydd, i gloi, er gwaethaf y cyni parhaus a orfodir ar lefel y DU sy'n tanseilio ein gallu i gyflawni'r buddsoddiad y mae ein gwlad yn ei haeddu, rwy'n falch o gyflwyno cyllideb sy'n parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol gan gefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru fwy cyfartal, mwy ffyniannus a gwyrddach.