Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 4 Chwefror 2020.
Mae ef wedi sôn am Faes Awyr Caerdydd. Mae maer dyffryn Tees, sy'n Geidwadwr, wedi gwneud yn fawr o'r ffaith ei fod wedi prynu'r hyn sydd nawr yn faes awyr rhyngwladol Teeside, ac yn bwriadu buddsoddi ynddo a'i fod wedi dweud ei fod yn ased cyhoeddus. Os yw'n wir y gall y maer Ceidwadol yn y fan honno ganmol perchenogaeth gyhoeddus ar faes awyr, pam na all Ceidwadwyr Cymru wneud hynny hefyd?