Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 4 Chwefror 2020.
Mae yna sawl llinyn mesur i'r ffordd rydym ni ym Mhlaid Cymru yn asesu cyllideb Llywodraeth Lafur. Yn sylfaenol, y cwestiwn rydym ni'n ei ofyn ydy: ydy'r Llywodraeth yn defnyddio ei hadnoddau cyllidol yn y ffordd fwyaf effeithiol i drio trawsnewid Cymru? Ydy'r Llywodraeth yn gallu dweud wrthym ni fod yna gyllido yma sydd yn arloesol, sy'n gyrru nid yn unig gwelliant yn y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu rhedeg yng Nghymru, ond yn newid diwylliant gwirioneddol ynglŷn â'r ffordd rydym ni'n meddwl ynglŷn â delifro i bobl Cymru? Yr ateb, dwi'n ofni, yn eithaf clir ydy, 'na'.
Beth sydd gennym ni ydy Llywodraeth Lafur sy'n amharod i fod yn radical ar gefndir o Lywodraeth Geidwadol sydd wedi profi yn gwbl ddi-hid ynglŷn ag effaith torri gwariant cyhoeddus yn drwm am resymau ideolegol am ddegawd a mwy. Allwn ni ddim fforddio mân reoli ar ymylon y gyllideb a disgwyl trawsnewid. Dwi'n ofni bod y gyllideb ddrafft yma yn gyfle arall wedi'i golli i fynd i'r afael â rhai o'r heriau pennaf rydym ni'n eu hwynebu. Oes, mae yna ragor o arian yn y pot y tro yma, mae yna fymryn o le i anadlu ar ôl y 10 mlynedd yna o doriadau llym—dwi'n ofni mai dros dro y mae o serch hynny—ond does yna ddim newid cyfeiriad yma. Does dim arwydd bod y Llywodraeth wedi sylweddoli o'r diwedd bod angen dilyn trywydd gwahanol, neu fel arall yr un heriau, yr un problemau sy'n mynd i godi dro ar ôl tro a fydd dim yn newid.
Mi fuaswn i'n licio diolch i fy nghyn gyd-Aelodau ar y Pwyllgor Cyllid—rwy wedi gadael y pwyllgor bellach—am y sgrwtini manwl sydd wedi bod o'r gyllideb mewn cyfnod llawer rhy fyr. Ac ar y pwynt yma, mi wnaf i ategu eto beth dwi ac eraill wedi'i ddweud o'r blaen: ydy, mae'r amgylchiadau wedi bod yn rhai anarferol, ein bod ni wedi cael etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig ar yr union gyfnod lle buasai'r penderfyniadau cyllidol wedi arfer cael eu gwneud ar lefel Brydeinig. Dyna sydd wedi arwain at ffaith ein bod ni'n delio â chyllideb Gymreig fan hyn heb fod yn gwybod yn union faint ydy'r gyllideb sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Ond mae'r ffaith bod hynny wedi gallu digwydd—ein bod ni yn gorfod dilyn proses sgrwtini heb wybod yn union beth rydym ni'n ei sgrwtineiddio—yn brawf i fi dyw bod ynghlwm mor dynn â system Westminster ddim yn gweithio i Gymru.
Mae yna nifer o elfennau unigol i'r gyllideb yma—ac mi wnaf i gyfeirio atyn nhw—ond mae yna thema, dwi'n credu. Mae yna wendid yn rhedeg drwy'r gyllideb yma, a hwnnw ydy'r methiant i ddechrau meddwl yn wirioneddol ataliol er mwyn tanio'r math o drawsnewid rydym ni ei angen. Edrychwch ar y gyllideb ar gyfer taclo newid hinsawdd—y cyllido mwyaf ataliol posib, efallai. Oes, wrth gwrs mae yna elfennau nid ansylweddol o'r gyllideb yma sydd wedi'u targedu tuag at daclo newid hinsawdd, ond os ydym ni'n rhoi hynny yn y cyd-destun rydym ni ynddo fo, y ffaith ein bod ni fel Senedd, a chithau fel Llywodraeth Cymru, wedi datgan argyfwng hinsawdd yn ddiweddar, mae'r ymateb yn y gyllideb yma i hynny, dwi'n credu, yn annigonol.
Mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn amcangyfrif bod yna gymaint â 28 y cant o gynnydd wedi bod yn yr arian sydd yn cael ei glustnodi ar gyfer datgarboneiddio, sy'n swnio'n grêt, ond mae hi'n ein hatgoffa ni ein bod ni'n dechrau o lefel isel iawn, iawn. Ac, yn allweddol, beth mae'r comisiynydd wedi'i ddweud wrthym ni, sy'n ddamniol, ydy ei bod hi'n ymddangos mai prin iawn ydy'r dystiolaeth o weithredu strategol gan y Llywodraeth—[Torri ar draws.]