Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 4 Chwefror 2020.
Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd Mike, yn enwedig ynglŷn â'r mater o gadw pobl yn iach a bod hyn yn mynd i arbed llawer mwy ar y gyllideb iechyd na phe byddem yn lluchio arian drwy'r amser at bethau nad ydyn nhw'n gweithio'n arbennig o dda ar hyn o bryd.
Roeddwn i eisiau siarad am ddyraniad y gyllideb tai, yn enwedig y grantiau tai â chymorth. Oherwydd ddydd Gwener, ymwelais ag un o dai â chymorth Llamau i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, oed pan fo'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn dal i fod â lle yng nghartref y teulu, naill ai'n rhan-amser neu'n llawn amser. Ond nid yw'r bobl hyn, am ryw reswm neu'i gilydd, yn gallu byw gyda'u teuluoedd ac nid ydyn nhw'n yn barod i ddal eu tenantiaeth eu hunain, boed hynny o ganlyniad i drawma digartrefedd, sy'n eu gwneud yn agored i niwed, neu oherwydd cam-fanteisio rhywiol, neu oherwydd eu bod nhw'n colli'r cymorth a oedd ar gael iddyn nhw yn flaenorol fel plant sy'n derbyn gofal, neu os ydyn nhw yn gaeth i alcohol neu gyffuriau, sy'n golygu ei bod yn amhosibl iddyn nhw ddal eu tenantiaeth eu hunain.
Gwyddom fod y boen o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gwneud pobl ifanc o'r fath yn fwy tebygol o gael salwch meddwl difrifol neu, fel arall, mynd i'r carchar. Felly, mae'r naill lwybr neu'r llall yn fwy o lawer o dreth ar adnoddau cyhoeddus na'r gwariant ataliol y mae angen i ni ei roi yn y grant cymorth tai. Felly, mae'r gwaith gan Llamau ac eraill i atal pobl rhag disgyn i naill ai droseddu neu argyfwng meddwl yn arbediad enfawr i gymdeithas.
Mae gan Llamau 10 o dai yng Nghaerdydd, ac mae pob un gyda llety byw i rhwng tri a chwech o bobl. Mewn sawl ffordd, nid yw'n wahanol i'r trefniadau a ddefnyddiwyd gan y nifer fawr o fyfyrwyr mewn tai amlfeddiannaeth yn fy etholaeth i. Mae gan bob unigolyn ystafell ei hun, ac maen nhw'n rhannu'r ystafell ymolchi, y gegin a'r ystafell fyw gydag eraill. Mae gwahaniaethau, serch hynny. Mae pob tenant yn Llamau yn cael dewis eu dodrefn ystafell wely a'u haddurniadau eu hunain. Nid yw papur wal pinc at ddant pawb, ond dyna oedd dewis menyw ifanc benodol, a dyna oedd yn gwneud iddi deimlo ei fod yn gartref iddi hi.
Dywed Llamau wrthyf fod tri chwarter, o leiaf, o'r holl bobl ifanc hyn wedyn yn symud ymlaen yn llwyddiannus i ddal eu tenantiaethau eu hunain, neu denantiaeth hyfforddi, naill ai yn y sector cymdeithasol neu mewn tenantiaeth rhentu breifat. Un o nodweddion pwysig eu cymorth yw eu bod yn parhau i gael eu cefnogi am y 12 mis cyntaf gan yr un grŵp o weithwyr proffesiynol y daethant i ymddiried ynddynt nhw tra'r oedden nhw yn y llety â chymorth.
Felly, mae grant Llamau gan wasanaeth atal digartrefedd Cyngor Caerdydd yn talu am bedair rhan o bump o gost y cymorth hwn sydd wedi'i deilwra ac sy'n llawn dychymyg. Mae'n rhaid i'r gweddill—£250,000—ddod o godi arian, ac roeddwn i'n hapus iawn i gefnogi'r digwyddiad cysgu allan yng Nghastell Caerdydd ddechrau mis Rhagfyr, a gefnogwyd gan amrywiaeth enfawr o unigolion a sefydliadau. Ond rwy'n meddwl tybed, ar ôl llwyddiant profedig yr ymyrraeth gyntaf hon ym maes tai, a yw hi'n iawn i ddim ond cael setliad ar ffurf arian sefydlog ar gyfer y llinell hon o'r gyllideb, sydd mewn gwirionedd yn golygu toriad. Heb fuddsoddiad ychwanegol yn y grant cymorth tai, mae perygl na fydd gan wasanaethau y gallu i ddiwallu anghenion pobl, ac mae hynny'n amlwg yn broblem enfawr yng Nghaerdydd, lle mae gennym ni nifer sylweddol o bobl sydd naill ai'n ddigartref eisoes neu mewn perygl o fod yn ddigartref.
I droi at fater arall, sef ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i dlodi tanwydd, sy'n mynd rhagddo, mae'n dangos bod llawer mwy y gellir ei wneud i gydgysylltu'r dull. Tybed a ydym ni'n defnyddio'r holl fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yn ddigonol i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyd-weithio rhwng gwahanol randdeiliaid
Gall symiau bach o arian fod yn allweddol yn aml, a chymeradwyaf y £5 miliwn yn y gyllideb twf amgylcheddol ar gyfer cronfa lleoedd lleol ar gyfer natur, y gellir ei gweld, fel y dywedodd y Gweinidog, o garreg y drws ac mae'n llawer mwy arwyddocaol o ran ei heffaith na'r £137 miliwn o gyfalaf cyffredinol ar gyfer yr eitem hon. Felly, rwy'n credu y gallem fod yn gwneud llawer mwy o'r math hyn o beth, megis y gronfa tai arloesol, sydd wedi dangos, dro ar ôl tro, y gallwn ni fod yn adeiladu tai llawer gwell na dull Legoland y pum cwmni mawr sy'n adeiladu tai. Diolch.