6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2020-2021

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 4 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:15, 4 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Pan gawsom gyfle i drafod y gyllideb ddrafft yn y ddadl ar y datganiad ar y gyllideb ddrafft dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, ymatebais yn eithaf manwl i'r materion a godwyd ynghylch tlodi, y GIG, y Gymraeg, a'r setliad llywodraeth leol, felly rwy'n bwriadu defnyddio fy amser yn ymateb i'r ddadl y prynhawn yma trwy edrych ar rai o'r meysydd eraill y mae cyd-Aelodau wedi sôn amdanyn nhw yn y ddadl heddiw ac yn y gorffennol, na chefais gyfle i edrych arnyn nhw y tro diwethaf.

Rwy'n credu bod thema datgarboneiddio wedi bod yn amlwg dros ben yn y cyfraniadau y prynhawn yma, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod bod y cyllid ychwanegol o £96 miliwn ar gyfer mesurau datgarboneiddio yn rhan o'r £140 miliwn ehangach hwnnw sy'n edrych ar ddatgarboneiddio a bioamrywiaeth yn un rhan yn unig o'r darlun. Gallwch edrych drwy'r holl waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud a thrwy'r gyllideb gyfan i weld ble'r ydym ni'n gwneud cynnydd o ran mynd i'r afael â datgarboneiddio. Felly, un enghraifft fyddai'r £48 miliwn ychwanegol sy'n cael ei ddefnyddio i gynyddu lefel y grant tai cymdeithasol sydd ar gael. Felly, nawr, mae pob tŷ newydd yng Nghymru yn cael ei adeiladu yn unol â safon ansawdd tai Cymru, ac mae hynny, wrth gwrs, yn gwella effeithlonrwydd ynni ac yn lleihau'r allyriadau o wresogi domestig.

Rydym ni hefyd yn buddsoddi bron i £21 miliwn drwy ein cynllun gweithredu economaidd yn 2020-21, ac mae hynny'n ymwneud â sbarduno twf cynaliadwy a mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd yn unig, drwy'r galwadau i fusnesau preifat weithredu, y mae angen iddyn nhw ei wneud os ydyn nhw eisiau cael mynediad at gronfa dyfodol yr economi. Ac, yn amlwg, mae hynny hefyd yn chwarae rhan flaenllaw iawn yn y contract economaidd hefyd. Felly, gallwch weld datgarboneiddio'n rhedeg drwy'r holl bethau hynny.

Ac, wrth gwrs, rydym ni wedi cyhoeddi ein cynllun cyflawni carbon isel, sy'n nodi amrywiaeth eang o gamau gweithredu a blaenoriaethau i'r Llywodraeth. Ers tair blynedd bellach, rydym ni wedi bod yn darparu cyllid ychwanegol i weithredu'r Ddeddf teithio llesol, sy'n rhoi'r ddyletswydd gyfreithiol honno ar awdurdodau lleol i wella eu llwybrau teithio llesol—sydd, unwaith eto, yn bwysig iawn ar gyfer datgarboneiddio. Ac mae ein gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru wedi bod yn buddsoddi mewn benthyciadau dim llog ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i ddarparu prosiectau ynni ac effeithlonrwydd ynni. Ac, ar gyfer 2020-21, rydym ni'n cyfrannu £4 miliwn arall o gyfalaf tuag at hynny.

Wrth gwrs, pan edrychwn ni ar y diwydiant ffermio, rydym ni'n gwybod y rhan bwysig y gall hwnnw ei chwarae o ran ein helpu ni gyda'n dyheadau o ran datgarboneiddio. Felly, gwnaed £40 miliwn ar gael drwy'r grant busnes fferm tuag at fuddsoddiad cyfalaf mewn offer a pheiriannau y nodwyd ymlaen llaw eu bod yn cynnig manteision eglur a mesuradwy i fentrau fferm, a cheir £1.5 miliwn ychwanegol yn 2020-21 yn hynny o beth. Felly, nid yw'n ymwneud â'r £96 miliwn ychwanegol yn unig—mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â gwneud pethau trwy gyllideb gyfan Llywodraeth Cymru.

Rydym ni'n cymryd ein cyngor gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd o ran y meysydd lle gallwn ni gael yr effaith orau a mwyaf dwfn, ac maen nhw'n dweud wrthym ni bod datgarboneiddio'r sector trafnidiaeth ffyrdd yn hanfodol i gyflawni targed sero net. A dyna pam mae dros £60 miliwn o'r buddsoddiad ychwanegol a dargedir mewn datgarboneiddio ar gyfer y sector trafnidiaeth yn uniongyrchol. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n edrych ymlaen at weld Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd yn rhoi mwy o gyngor i Gymru yn ystod y flwyddyn hon ar y ffordd orau y gallwn ni gyflawni'r daith honno tuag at ddyfodol di-garbon. Wrth gwrs, rwy'n deall dymuniad fy nghyd-Aelodau i gael yr asesiadau effaith carbon hynny i ddeall effaith ein gwariant yn well. Mae'n aruthrol o anodd ei wneud; rydym ni'n edrych i weld a yw hyn yn cael ei wneud yn llwyddiannus yn rhyngwladol. Dydyn ni ddim wedi dod o hyd i enghraifft eto. Efallai yr edrychwn ni tuag at gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i ddangos, drwy'r gwaith y mae'n ei wneud yn ei chyllideb, rhyw fath o lwybr i'n tywys ni i ddatblygu asesiad effaith carbon, efallai. Ond rydym ni'n eglur iawn y dylem ni'n sicr, lle gellir ei wneud, wneud ymdrechion i wneud hynny.

Un enghraifft lle gallwn ddangos effaith ein gwariant ar garbon, er enghraifft, yw'r £7.9 miliwn ychwanegol i gefnogi amrywiaeth o fesurau ansawdd aer, gan gynnwys cymell cerbydau hacni a gyrwyr hurio preifat yng Nghaerdydd i uwchraddio i gerbydau sydd â lefel isel iawn o allyriadau. Nawr, yn seiliedig ar ein tybiaethau presennol, gellir sicrhau arbedion carbon deuocsid amcangyfrifedig o tua 3,300 tunnell y flwyddyn. Felly, dyna un maes lle gallwn ni ei ddangos, ac rwy'n awyddus iawn bod cydweithwyr ar draws y Llywodraeth yn archwilio ffyrdd y gallwn ni ddangos hyn ymhellach yn y dyfodol, oherwydd rwy'n cydnabod ac yn deall ac yn cytuno â'r dymuniad i wneud mwy yn y maes hwnnw.

Rhoddwyd enghraifft cyllideb llesiant Seland Newydd fel ffordd y gallwn ni edrych ymhellach ar wella'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, ac rydym ni'n ymgysylltu â Seland Newydd yn rhan o'r rhwydwaith hwnnw o wledydd sy'n cyllidebu ar gyfer llesiant—felly, rhannu gwybodaeth—oherwydd maen nhw'n awyddus iawn i wybod beth rydym ni'n ei wneud yma hefyd. Ond gallaf roi'r sicrwydd hwnnw bod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi cymryd rhan gyda ni yn natblygiad y gyllideb drwyddi draw, ac rydych chi'n gweld hynny'n arbennig, rwy'n credu, yng nghynllun gwella'r gyllideb, a gyhoeddwyd gennym ni am y tro cyntaf erioed eleni. Mae hwnnw'n cymryd gorwel pum mlynedd, gan ystyried sut y gallwn ni geisio gwreiddio Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn well, ac yn arbennig, rwy'n meddwl, atal, yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar draws y Llywodraeth gyfan.

O ran atal, rwy'n credu bod yr enghraifft a roddodd Mike Hedges o ran y buddsoddiad y mae'n rhaid i ni ei wneud ym maes tai yn enghraifft dda iawn, oherwydd, fel y disgrifiodd, gall effaith tai gwael ar unigolyn fod yn niweidiol iawn mewn cymaint o ffyrdd.