Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 4 Chwefror 2020.
Os edrychwch chi'n benodol ar gynllun gwella'r gyllideb, byddwch yn gweld golwg yn ôl ar yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf i geisio sicrhau bod y Ddeddf yn hysbysu'r gwaith o baratoi'r gyllideb, ond, unwaith eto, mae'n edrych ymlaen hyd at bum mlynedd arall o ran sut y gallwn ni geisio gwreiddio'r Ddeddf yn well yn ein ffyrdd o weithio ar draws y Llywodraeth gyfan. Cymeradwyaf y ddogfen honno i'm cyd-Aelodau.
Mae atal, wrth gwrs, yn ymwneud â chymaint o bethau, ond, fel roeddwn i'n dweud, mae tai yn elfen arbennig o bwysig. Felly, yn y gyllideb, byddwch yn gweld £108 miliwn o fuddsoddiad parhaus i gynorthwyo landlordiaid cymdeithasol i sicrhau bod y safon ansawdd tai yn cael ei bodloni yn ein 225,000 o gartrefi cymdeithasol. Mae hynny'n dipyn o gamp. Byddwch yn gweld £50 miliwn o gyfalaf trafodion ariannol yn ein rhaglen benthyciadau tai, a diben hwnnw yw cynorthwyo landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ariannu cynlluniau datblygu ar gyfer tai cymdeithasol newydd a helpu, yn hollbwysig, i ddechrau datgarboneiddio'r cartrefi presennol hynny, a £400,000 i roi cyngor ar ynni yn y cartref ac ar fynd i'r afael â thlodi tanwydd ymhlith cartrefi incwm isel.
Maes arall na chawsom gyfle i siarad llawer amdano yn y ddadl flaenorol oedd pwysigrwydd addysg a'r blynyddoedd cynnar yn yr agenda ataliol, oherwydd mae addysg yn amlwg yn un o'r buddsoddiadau pwysicaf y gallwn ni eu gwneud i wella cyfleoedd bywyd plant, yn enwedig y rhai o gymunedau difreintiedig a'r rhai â nodweddion gwarchodedig. Felly, rhai enghreifftiau penodol fyddai'r £10 miliwn i gynorthwyo darpariaeth y cwricwlwm newydd i Gymru, sydd wrth wraidd ein cynllun gweithredu i godi safonau ysgolion. Ategir hynny gan £3 miliwn ychwanegol ar gyfer datblygu rhwydweithiau cenedlaethol, a £15 miliwn arall ar gyfer y dysgu proffesiynol i sicrhau bod ein proffesiwn addysgu yn cael y cymorth sydd ei angen arno. Rwy'n arbennig o falch gyda'r buddsoddiad ychwanegol o £8 miliwn i gynorthwyo plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol i gael addysg o ansawdd uchel a gwireddu eu potensial.
Soniwyd am faes awyr Caerdydd ychydig o weithiau, ac, ar 21 Hydref, cyhoeddodd fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, gyfleuster benthyciad masnachol estynedig i'r maes awyr. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod, o'r £21.2 miliwn, bod £4.8 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer 2020-21 ac wedi ei adlewyrchu yn y gyllideb hon. Felly, nid yw hwnnw'n arian newydd mewn unrhyw ffordd—fe'i cyhoeddwyd eisoes—ac mae ail-gyllido'n weithgaredd normal a phriodol.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod hefyd bod meysydd awyr yn cael eu prisio ar sail yr enillion cyn llog, treth, dibrisiant ac amorteiddio, ac mae hwnnw'n fesur sylfaenol o'r ffordd y caiff meysydd awyr eu prisio'n fyd-eang. Mae prisiad Maes Awyr Caerdydd yn hynny o beth wedi cynyddu o £7,000 i £77,000, felly mae hwnnw'n amlwg yn gynnydd mawr, ac mae'n adlewyrchu'r twf cryf yn refeniw'r maes awyr, a oedd 34% yn uwch o'i gymharu â'r flwyddyn ariannol flaenorol. Felly, mae hynny dim ond mewn ymateb i rai o'r materion a godwyd ynglŷn â Maes Awyr Caerdydd ar ddechrau'r ddadl. Ond, i atgoffa cyd-Aelodau hefyd, o'r meysydd awyr byd-eang sy'n gwasanaethu teithiau awyr a drefnwyd, dim ond 14 y cant ohonyn nhw sydd ddim mewn perchenogaeth gyhoeddus, felly mae meysydd awyr fel Charles de Gaulle ym Mharis, Schiphol yn Amsterdam, a JFK yn Efrog Newydd i gyd yn eiddo cyhoeddus, ac mewn gwirionedd dylai ein pryder fod ynghylch y wasgfa y mae Llywodraeth y DU yn ei rhoi ar feysydd awyr llai a rhanbarthol.
Dim ond ychydig eiliadau sydd gen i ar ôl i fyfyrio ar fater dyfodol ardrethi busnes, y cyfeiriwyd ato gan lefarydd yr wrthblaid hefyd. Mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â chyfres fawr o waith ymchwil i helpu i'n hysbysu am y newidiadau posibl yr hoffem ni eu gwneud i drethi lleol efallai—ardrethi annomestig a'r dreth gyngor, felly—a byddwn yn cyhoeddi cyfres o adroddiadau ymchwil dros yr wythnosau nesaf a fydd yn ein helpu ni ac eraill, gobeithio, i ddechrau llunio eu syniadau i greu gweledigaeth o ran ble y gallai'r trethi hynny fynd yn y dyfodol.
Felly, i gloi, bydd gennym ni gyllideb Llywodraeth y DU ar 11 Mawrth, a gallai honno arwain at oblygiadau eithaf mawr i'n cynlluniau gwario ni. Bydd hefyd yn cael ei hategu gan ragolygon economaidd a chyllidol newydd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a allai effeithio ar ragolygon y refeniw trethi datganoledig a hefyd yr addasiadau i'r grant bloc cysylltiedig. Gallai Llywodraeth y DU hefyd wneud newidiadau i bolisi treth a allai effeithio ar benderfyniadau ynghylch trethi datganoledig yng Nghymru, felly rwy'n ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau ac i'r Cynulliad am yr effeithiau hynny cyn gynted â phosibl, ac edrychaf ymlaen yn fawr at ymgysylltu â'r Pwyllgor Cyllid ar y gwaith y mae'n ei wneud pan fydd yn ystyried y broses o bennu cyllideb, ac rwy'n arbennig o awyddus i ddweud ar goedd nawr pa mor awyddus yr wyf i dderbyn eich argymhelliad ynghylch dadl gynnar yn y flwyddyn ariannol, gan fy mod i'n credu bod hynny'n arbennig a ddiddorol a defnyddiol ar ddechrau'r broses hon.