Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 4 Chwefror 2020.
Mae hynny'n ddamniol, dwi'n credu. Dyna i chi'r £29 miliwn ar gyfer bysus trydan. Grêt. Mae'r ffigur ei hun yn iawn. Rydych chi'n gwybod yn iawn fy mod i'n ymgyrchydd brwd dros gerbydau trydan, ond, efo cyllideb fel hyn, rydym ni angen tystiolaeth i weld ai rhoi £29 miliwn am fysus newydd ydy'r ffordd orau i gael yr impact mwyaf o ran datgarboneiddio allan o wariant o £29 miliwn. Ac, ar ben hynny, mae yna elfennau o'r gyllideb allai fod yn negyddol, hyd yn oed, o ran eu impact ar yr amgylchedd.