7. Dadl: Adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 4 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 5:30, 4 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Roedd gwneud hawliau yn wirionedd yn un o gonglfeini sylfaenol gwladwriaeth les 1945. Roedd cymorth cyfreithiol, pan gafodd ei gyflwyno ym 1949, yn cwmpasu 80 y cant o'r boblogaeth. Saith deg mlynedd yn ddiweddarach, yn 2019, canfu'r comisiwn ddarlun gwahanol iawn. Mae toriadau cyllideb gan Lywodraeth y DU wedi arwain at yr hyn y mae'r Comisiwn yn ei alw'n 'anialwch cyngor' cynyddol mewn ardaloedd gwledig a Chymru ôl-ddiwydiannol, lle gall fod yn anodd i bobl gael gafael ar gyngor a gwasanaethau cyfreithiol o gwbl. Ac ar yr un pryd, mae niferoedd cynyddol o bobl yn cynrychioli eu hunain mewn llysoedd a thribiwnlysoedd.

Mae cymorth cyfreithiol yn gyfrifoldeb a gadwyd yn ôl yn gyfan gwbl, ond canfu'r comisiwn mai penderfyniadau a wneir yma gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon sy'n gorfod llenwi'r bylchau sy'n dod i'r amlwg. Mae cronfa cyngor sengl Cymru yn sicrhau bod dros £8 miliwn ar gael bellach i wasanaethau cynghori, sy'n rhan hanfodol o'n system gyfiawnder erbyn hyn. A dim ond un enghraifft yw honno o orfod dargyfeirio arian a ddarperir ar gyfer gwasanaethau datganoledig er mwyn diwallu anghenion brys dinasyddion Cymru wrth iddynt ryngweithio â'r system gyfiawnder. Yn wir, adroddodd y comisiwn fod tua 38 y cant o gyfanswm y gwariant ar gyfiawnder yng Nghymru yn 2017-18 yn deillio o Lywodraeth Cymru neu dalwyr treth gyngor Cymru. Gallem ni ddefnyddio'r arian hwnnw i wneud penderfyniadau gwahanol yma yng Nghymru.

Llywydd, fel y gŵyr yr Aelodau, mae ymchwil a wnaed gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn awgrymu bod gan Gymru un o'r cyfraddau carcharu uchaf, os nad yr uchaf, yng ngorllewin Ewrop. Yn achos menywod sydd yn y system garchardai, mae'r mwyafrif yn cael eu heuogfarnu o fân droseddau ac yn cyflawni dedfrydau byr, ond eto dedfrydau sy'n arwain at darfu ar fywyd cartref, colli cyflogaeth a thai, ac yn effeithio ar ofal plant neu berthnasau oedrannus. I fenywod yng Nghymru, mae'r sefyllfa'n waeth oherwydd bod yr holl fenywod sy'n cael eu carcharu yn cael eu carcharu mewn un o 12 o garchardai i fenywod yn Lloegr, sy'n ei gwneud yn anoddach i fenywod o Gymru gadw cyswllt â'u teulu ac yn gwaethygu'r problemau y maen nhw a'u dibynyddion yn eu hwynebu. Gallem ni a byddem ni yn gwneud pethau yn wahanol yng Nghymru.

Neu os edrychwn ar brofiad plant sy'n cael eu gwahanu oddi wrth eu cyfoedion mewn sefydliadau troseddwyr ifanc, fel yr amlygwyd yn ddiweddar gan Brif Arolygydd Carchardai EM, dylid gwahanu dan amgylchiadau o'r fath er mwyn amddiffyn plant, ond canfu'r prif arolygydd fod y rhan fwyaf o blant sydd wedi eu gwahanu yn cael eu cadw i bob pwrpas mewn carchariad unigol niweidiol heb lawer o gyswllt â phobl ac o dan amodau sy'n peryglu niwed i'w hiechyd meddwl. Eto, gallem ni a byddem ni yn gwneud pethau yn wahanol ac yn well yng Nghymru.

Sut, felly, yr ydym yn bwrw ymlaen ag adroddiad y comisiwn? Rydym yn wynebu tair tasg hanfodol: deddfu'r argymhellion hynny sy'n uniongyrchol berthnasol i Lywodraeth Cymru; darparu arweiniad cydweithredol yn y meysydd hynny lle mae cynigion yr adroddiad yn dibynnu ar weithredwyr eraill yng Nghymru; a goruchwylio trafodaethau gyda Llywodraeth newydd y DU ar gynigion Thomas. Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar bob un o'r tair tasg.

Rydym yn archwilio'r ddarpariaeth o brentisiaethau a sut yr ydym yn sicrhau hyfywedd hirdymor arferion cyfreithiol ledled y wlad. Rydym yn bwrw ymlaen ag argymhellion y comisiwn ynghylch addysg gyfreithiol a sefydlu cyngor cyfreithiol i Gymru. Bydd Comisiwn y Gyfraith yn ein cynghori ar nifer o'r argymhellion sy'n ymwneud â rhannau o'r system gyfiawnder sydd eisoes wedi eu datganoli, yn arbennig tribiwnlysoedd Cymru, ac rydym yn dysgu gwersi'r adroddiad o ran sut y gallem ni leihau nifer y plant mewn gofal.

Ein hasesiad cychwynnol yw y gallai tua dwy ran o dair o argymhellion y comisiwn ofyn am gydweithrediad Llywodraeth y DU i'w gweithredu. Nid yw hyn yn syndod, o gofio bod cyfiawnder yn fater a gadwyd yn ôl ar y cyfan. Nodais bwysigrwydd trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros gyfiawnder i Gymru yn fy ngohebiaeth gyntaf â'r Prif Weinidog ar ôl ei ailethol. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd cyfiawnder, a ddywedodd yn ddiweddar y dylai pob adran yn y DU ystyried ei hun yn adran gyfiawnder, bod angen i benderfyniadau ynghylch sut y mae'r system gyfiawnder yn gweithredu fod yn gyson â blaenoriaethau cymdeithasol ac economaidd eraill, a bod yn gydgysylltiedig â'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus megis iechyd ac addysg.

Yng Nghymru, wrth gwrs, mae'r gwasanaethau hynny wedi eu datganoli, ac mae adroddiad comisiwn Thomas yn dweud wrthym nad yw ble mae pwerau yn gorffwys yn fater o ddamcaniaeth haniaethol. Mae heriau ymarferol gwirioneddol, anochel a diangen yn codi bob dydd sy'n deillio o'r ffaith bod cyfrifoldebau wedi eu rhannu rhwng San Steffan a Chymru ar hyn o bryd, er gwaethaf yr holl ymdrechion sy'n cael eu gwneud yng Nghymru ar bob ochr i leddfu effeithiau'r heriau hynny.