Part of the debate – Senedd Cymru am 6:24 pm ar 4 Chwefror 2020.
Dylai cyfiawnder, fel y mae'r comisiwn wedi'i ddweud, fod wrth wraidd Llywodraeth. Ac mae casgliadau'r comisiwn yn ddiamwys. Dylai cyfiawnder gael ei bennu a'i gyflawni yng Nghymru, i gyd-fynd â pholisïau cymdeithasol, iechyd ac addysg unigryw Cymru sy'n datblygu. Nid ydyw ar hyn o bryd, oherwydd mae cyfiawnder, yn gyffredinol, wedi'i gadw'n ôl. Rwy'n cytuno â'r comisiwn fod y setliad datganoli presennol yn ddryslyd ac yn gymhleth ac nad yw'n diwallu anghenion pobl Cymru.