Part of the debate – Senedd Cymru am 6:29 pm ar 4 Chwefror 2020.
A dyma ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dwi'n symud i'r bleidlais. Mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y gyllideb ddrafft, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.