Part of QNR – Senedd Cymru ar 4 Chwefror 2020.
Agorodd fy nghyfaill, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gyfadran Cymru-gyfan ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal deintyddol yn swyddogol ddydd Iau yr wythnos ddiwethaf. Bydd yn helpu i sicrhau amrywiaeth ymhlith y gweithlu deintyddol, er mwyn cefnogi’r nifer cynyddol o ddeintyddion sy'n darparu gofal yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.