Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 5 Chwefror 2020.
Diolch i Jack Sargeant am ei gwestiwn, ac am ei gefnogaeth i wasanaethau ar gyfer pobl ddigartref. Gŵyr ein bod wedi cynnal lefel y cyllid eleni yn y grant cymorth tai ar £126.8 miliwn. A chredaf fod ein cyflawniad yng Nghymru yn cymharu'n ffafriol iawn â'r hyn a wnaed dros y ffin, mewn perthynas â Cefnogi Pobl. Oherwydd cafodd y gyllideb yno ei dadneilltuo, gan arwain at doriadau sylweddol yn y gwasanaeth, yn ôl y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Ond, fel y gŵyr yr Aelod, mae’r gwaith o graffu ar gyllideb 2020-21 yn mynd rhagddo, ac rwy'n gwrando'n ofalus. A gwn y bu rhai negeseuon am flaenoriaethau Aelodau, sydd wedi cael eu cyfleu’n gwbl glir. Felly, byddaf yn sicr yn ceisio gweld—pan fyddaf yn pennu’r gyllideb derfynol, yn y ddadl derfynol honno ar y gyllideb—beth fyddai fy mlaenoriaethau pe baem yn cael refeniw ychwanegol o gyllideb Llywodraeth y DU ar 11 Mawrth.