Mercher, 5 Chwefror 2020
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan David Melding.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiadau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer Cwm Rhondda yn 2020? OAQ55046
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn cefnogi ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn Sir y Fflint? OAQ55032
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth ariannol a roddir i gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru? OAQ55024
4. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i roi i ariannu'r grant cymorth tai wrth ddyrannu cyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ55037
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gaffael arloesol yng Nghymru? OAQ55059
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gyflwyno treth ar dir gwag i Gymru? OAQ55033
7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwerth am arian defnyddio staff locwm yn y GIG yng Nghymru? OAQ55060
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21? OAQ55026
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Andrew R.T. Davies.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd o ran cefnogi'r broses o gyflwyno cyfleusterau diogel i sefyll mewn stadia pêl-droed? OAQ55022
2. Pa sylwadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r cynllun heddwch ar gyfer gwladwriaeth Palesteina ac Israel a argymhellwyd yn ddiweddar gan Unol...
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
4. Pa gysylltiad sydd gan y Gweinidog â gwledydd tramor sydd â dinasyddion a phobl yn byw yng Nghymru? OAQ55027
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Alun a Glannau Dyfrdwy i'r byd? OAQ55031
6. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio digwyddiadau mawr i hyrwyddo twristiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ55052
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo masnach ryngwladol? OAQ55036
8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chynrychiolwyr o'r UE ynghylch strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ55048
Eitem 3 yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Mae Cwestiwn 1 [OAQ55055] a Chwestiwn 2 [OAQ55053] ill dau wedi'u tynnu'n ôl, felly daw cwestiwn 3, i'w ateb gan y Llywydd, gan Vikki Howells.
3. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ymdrechion i hyrwyddo etholiad nesaf y Cynulliad? OAQ55042
4. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ei bolisi cofebion mewn perthynas â'r rhai fu farw, yn druenus, wrth wasanaethu fel Aelodau Cynulliad? OAQ55029
5. A wnaiff y Comisiwn amlinellu ymdrechion i leihau gwastraff bwyd ar ystâd y Cynulliad? OAQ55049
Eitem 4 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol. Daeth un cwestiwn amserol i law, i'w ateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Rhun ap Iorwerth sydd i ofyn y cwestiwn.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch ymadawiad Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr? 391
Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiadau 90 eiliad, a David Rees sydd gyntaf y prynhawn yma.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Galwaf ar David Melding i gyflwyno'r cynnig.
Ni chyflwynwyd cynnig ar gyfer eitem 7.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 3 yn enw Rebecca Evans, and amendments 2, 4 and 5 in the name of Darren Millar.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, heblaw fod tri Aelod eisiau i fi symud i ganu'r gloch. Heb hynny, felly, mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig deddfwriaethol gan Aelod ar bwyntiau gwefru...
Mae'r ddadl fer i'w chynnal nawr. Felly, gall Aelodau sy'n gadael wneud hynny'n dawel ac yn gyflym, cyn i fi alw Llyr Gruffydd i gyflwyno ei ddadl fer. Felly, dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i...
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i henebion cofrestredig sydd o bwysigrwydd cenedlaethol?
Pa strategaethau sydd gan y Gweinidog ar gyfer diogelu caffael cyhoeddus yng ngoleuni'r ansicrwydd ynghylch y trafodaethau masnach gyda'r UE?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia