Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 5 Chwefror 2020.
Diolch, Lywydd. Gan gamu'n ôl o fanylion y gyllideb hon, a'r anawsterau penodol rydym wedi'u cael gydag amseriad cyllideb y DU mewn perthynas â'n cyllideb ein hunain, beth yw barn y Gweinidog Cyllid ynglŷn â sut y mae ein proses gyllidebol yn gweithio yn gyffredinol? Pa mor dda, neu fel arall, y mae'n cymharu â'r hyn y gallem ei ystyried yn arfer gorau gan ddeddfwrfeydd eraill, boed hynny yn y DU neu'n rhyngwladol? A yw hi o’r farn fod achos i’w gael, wrth i fwy a mwy o drethi gael eu datganoli ac wrth i’r sefydliad hwn aeddfedu, dros symud at broses cyllideb ddeddfwriaethol?