Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 5 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:56, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog Cyllid.

Yn amlwg, ym mis Ebrill, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatganiad ar yr argyfwng newid hinsawdd. Nododd fy nghyd-Aelod Nick Ramsay fod eich sylwadau ddoe yn dweud bod hon yn gyllideb werdd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, eich rheoleiddiwr eich hun ar gyfer llawer o'r pethau ym maes yr amgylchedd, wedi cael cyllideb wastad, sydd i bob pwrpas yn doriad mewn termau real. A allwch gadarnhau p'un a gawsoch unrhyw sylwadau gan Weinidog yr amgylchedd i geisio sicrhau cynnydd mewn termau real yng nghyllideb CNC, neu a ydych heb dderbyn unrhyw sylwadau? Ac os na fydd cynnydd yn eu cyllideb, sut y disgwyliwch i Cyfoeth Naturiol Cymru gyflawni'r swyddogaethau rydych wedi'u rhoi iddynt?