Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 5 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:59, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd. Mae adroddiad y Llywodraeth ar gyfer 2017-18 yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi gwario £323 miliwn ar gyllid uniongyrchol i sefydliadau'r trydydd sector. Nid yw hyn yn cynnwys taliadau anuniongyrchol drwy asiantaethau fel llywodraeth leol. O ystyried bod nifer o enghreifftiau o ddyblygu wrth ddarparu gwasanaethau'r trydydd sector—er enghraifft, dywedir bod oddeutu 48 o sefydliadau'n ymwneud â gofalu am bobl ddigartref—a yw Llywodraeth Cymru wedi ei hargyhoeddi bod y cyllid hwn yn cynnig gwerth da am arian i drethdalwyr?