Treth ar Dir Gwag

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 5 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:13, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog, ac rwy'n croesawu'r diweddariad hwnnw ar gynlluniau ar gyfer mesur y teimlaf y gallai fod o fudd gwirioneddol i gymunedau fel fy un i. Rhoddodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ddatganiad llafar yr wythnos ddiwethaf ar yr agenda trawsnewid trefi, lle siaradodd am ddull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â bancio tir. A ydych yn cytuno â mi, Weinidog, fod treth ar dir gwag yn elfen hanfodol o hyn, gan alluogi adfywio canol trefi a datgloi safleoedd ar gyfer darparu tai newydd?