Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 5 Chwefror 2020.
Wel, ar ôl clywed dadl y gyllideb ddoe ac ar ôl clywed cwestiynau heddiw, rhaid bod y Gweinidog yn ymwybodol o’r pryder ar draws y Siambr ynglŷn â'r angen i gefnogi tai â chymorth. Pan euthum ar ymweliad, gwelais rywun a oedd wedi llwyddo i beidio â mynd i'r ysbyty ers pum mlynedd. Nid oeddent erioed wedi gallu aros allan o'r ysbyty am flwyddyn nes iddynt gael darpariaeth tai â chymorth. Mae cefnogaeth eang, os nad bron yn unfrydol, ar draws y Siambr hon i ddarparu cyllid ychwanegol i dai â chymorth. A wnaiff y Gweinidog geisio rhoi blaenoriaeth iddo yn ystod y cylch cyllideb hwn? Oherwydd mae’n fater sydd i'w weld yn uno bron bawb.