Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 5 Chwefror 2020.
Diolch. Rydym wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd tramor. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, beth bynnag sy'n digwydd yn y dyfodol, ei fod yn seiliedig ar gyfraith ryngwladol ac ar gydraddoldeb ac ar sicrhau bod y ddwy ochr yn deall bod yn rhaid i hwn fod yn gytundeb ar y cyd. Rwy'n credu mai'r broblem go iawn gyda'r cynllun yw'r ffaith nad oedd y Palesteiniaid yn yr ystafell pan gafodd ei drafod. Rwy'n credu y dylid bachu ar unrhyw ymdrechion i hyrwyddo heddwch yn y dwyrain canol, ond mae'n amlwg fod angen inni sicrhau ei fod yn deg a'i fod yn cydymffurfio â rhyddid a chyfiawnder. Mae'n rhyfeddol fod hyd yn oed y Tywysog Charles, a oedd yn y tiriogaethau Palesteinaidd yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn cytuno y dylai unrhyw drafodaethau yn y dyfodol fod yn seiliedig ar hynny.