Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 5 Chwefror 2020.
Er bod cysylltiadau rhyngwladol yn gymhwysedd a gedwir yn ôl, rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd tramor i egluro ein safbwynt ar gynllun heddwch y dwyrain canol. Mae Cymru'n credu'n gryf mewn system ryngwladol sy'n seiliedig ar reolau, ac yn credu'n gryf mewn ymdrech wirioneddol deg i ddod o hyd i ateb i'r gwrthdaro hwn sydd wedi para'n hwy na nemor yr un gwrthdaro arall. Os bydd trafodaethau'n cael eu cynnal, dylid gwneud hynny'n unol â chyfraith ryngwladol, paramedrau sefydledig, a phenderfyniadau presennol y Cenhedloedd Unedig. Ac mae'n bell o fod yn glir mai dyna yw man cychwyn y cynllun a luniwyd gan yr Arlywydd Trump a'r Prif Weinidog Netanyahu.