Cynllun Heddwch Gwladwriaeth Palesteina ac Israel

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 5 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:28, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddeall mai Llywodraeth y DU sy'n arwain mewn perthynas â materion tramor, ond hefyd mae'n bwysig fod pobl yn deall y gwerthoedd y credwn y dylid seilio cytundebau fel hyn arnynt. Rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru gefnogi unrhyw gamau a fydd yn golygu ein bod gam yn nes at weld problem heddwch y dwyrain canol yn cael ei datrys. Nid wyf yn siŵr mai dechrau arni yn y ffordd y mae hyn wedi'i ddechrau yw'r llwybr cywir ar gyfer sicrhau cynnydd yn hyn o beth. Ond yn sicr, rwy'n cytuno bod ymweliad y Tywysog Charles â'r Awdurdod Palesteinaidd yn rhywbeth adeiladol iawn yn ôl pob tebyg, ac rwy'n credu bod ei neges yn glir iawn pan oedd yno.