Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 5 Chwefror 2020.
A gaf fi ddiolch i Bethan Sayed am ei chwestiwn ar fater sy'n peri pryder i bob un ohonom yn y Siambr, rwy'n siŵr? A gaf fi roi sicrwydd iddi, a gweddill y Siambr, fod y gwasanaeth arlwyo yn y Cynulliad yn gweithio'n galed i leihau gwastraff bwyd lle bo modd drwy gynllunio bwydlenni a dognau yn effeithiol yn seiliedig ar dueddiadau hanesyddol a gwahanol ofynion cwsmeriaid bob dydd? Mae'r lefel gymharol fach o wastraff bwyd a gynhyrchir, sy'n cael ei anfon i'w gompostio mewn cyfleuster lleol, yn gadarnhad o effeithiolrwydd eu hymdrechion.