Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 5 Chwefror 2020.
Mae hyrwyddo etholiad Senedd 2021 yn un o dair ymgyrch rhyng-gysylltiedig y mae'r Comisiwn yn eu blaenoriaethu dros yr 16 mis nesaf, ynghyd â phleidleisio yn 16 a newid enw i'r Senedd. Cytunodd y Comisiynwyr y dylai ein gwaith ar hyrwyddo etholiad cyffredinol Cymru geisio canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o'r etholiad hwnnw fis Mai nesaf, i wella gwybodaeth am sut i bleidleisio, a darparu deunyddiau angenrheidiol ar gyfer unigolion a mudiadau sy'n gweithio ym maes addysg ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd allweddol.