Hyrwyddo Etholiad Nesaf y Cynulliad

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 5 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:04, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn ac am gyfeirio at y gwaith pwysig sy'n tynnu sylw at rywbeth y mae'n debyg fod llawer ohonom yn ymwybodol ohono o'n gwaith gwleidyddol ein hunain yn ein hetholaethau. Mae'r gwaith yn swnio'n ddiddorol; yn sicr, byddaf yn gofyn i fy swyddogion edrych arno wrth inni geisio paratoi ein gwaith cyfathrebu a hyrwyddo ein hunain i baratoi ar gyfer etholiadau'r flwyddyn nesaf. Fel y dywedais yn fy ymateb agoriadol, rydym yn awyddus i flaenoriaethu meysydd penodol. Un, wrth gwrs, yw'r bleidlais i bobl 16 a 17 oed, elfen newydd i'n hetholwyr, ond ceisio gweithio hefyd gyda phartneriaid sy'n gweithio gyda phobl o gymunedau sy'n teimlo'n arbennig o gryf eu bod wedi'u dieithrio oddi wrth y broses ddemocrataidd. Mae angen inni weithio i sicrhau ein bod yn ymgysylltu â'r bobl hynny yn arbennig, a'u bod yn wybodus ac yn cael eu grymuso i ddefnyddio eu pleidlais ddemocrataidd y flwyddyn nesaf.