8. Dadl Plaid Cymru: Llygredd Aer

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 5 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:20, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Gall dod i gysylltiad â llygredd aer amgylchynol yn y tymor byr a’r tymor hir arwain at lu o gyflyrau—llai o weithrediad yr ysgyfaint; heintiau anadlol; asthma gwaethygol i enwi dim ond tri. Mae perthynas rhwng cysylltiad y fam â llygredd aer amgylchynol a chanlyniadau geni niweidiol, pwysau geni isel, er enghraifft, geni cyn amser, genedigaethau bach o ystyried oed y ffetws. Mae tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg hefyd yn awgrymu y gallai llygredd aer amgylchynol effeithio ar ddiabetes a datblygiad niwrolegol mewn plant. Mae’n achosi llawer o ganserau, ac mae cysylltiad rhwng rhai llygryddion aer â chyflyrau seiciatryddol. Mae llygredd aer yn effeithio'n anghymesur ar bobl mewn ardaloedd difreintiedig, ac yn anffodus, mae'r ymatebion polisi yn aml wedi awgrymu nad yw hyn wedi’i ddeall. Rydym yn dal i aros am Ddeddf aer glân. Nid wyf yn siŵr ar hyn o bryd a yw'r Llywodraeth yn bwriadu cyflawni'r ymrwymiad a wnaed gan y Prif Weinidog yn ei ymgyrch ar gyfer yr arweinyddiaeth i gael Deddf o'r fath.

Mae'r geiriad a ddefnyddir gan y Llywodraeth yng ngwelliannau 1 a 3 o'n blaenau y prynhawn yma yn destun siom i ni. Nid oes gan y mwyafrif o Gymru systemau monitro ansawdd aer ar waith, ac mae’n hysbys iawn fod y modelau a ddefnyddir yn anfanwl. Nododd dyfyniad gan yr Athro Paul Lewis, athro uchel ei barch ym Mhrifysgol Abertawe, nad oes unrhyw fanylion yn y cynllun aer glân o gwbl ynglŷn â beth fyddai rhwydwaith monitro llygredd aer cenedlaethol yn ei wneud, ac efallai na fyddai’n arwain at unrhyw gynnydd sylweddol mewn monitro mewn gwirionedd: yn hytrach na buddsoddi mewn technoleg, mae’n debygol mai dim ond gweithio gyda'r cwmni modelu i wella'r modelau a wnânt—modelau sydd â chyfradd camgymeriad o 30 y cant ar hyn o bryd—i ragfynegi lefelau llygredd aer ledled Cymru. 

Bydd fy nghyd-Aelodau’n ymhelaethu ymhellach ynglŷn â pham ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn credu bod yr ymateb presennol yn gwbl annigonol, ac rwy'n meiddio dweud, yn hunanfodlon. Fodd bynnag, byddwn yn cefnogi gwelliannau'r Ceidwadwyr ger ein bron heddiw gan y credwn eu bod yn ychwanegu at y cynnig, ac maent yn adeiladol. 

Ond wrth gwrs, nid yw hon yn broblem sydd wedi'i chyfyngu i Gymru mewn unrhyw ffordd. Rydym yn sôn am broblem fyd-eang. Gallem nodi, er enghraifft, y bydd dros 1.5 miliwn o bobl—1.5 miliwn o bobl—yn marw bob blwyddyn yn Tsieina oherwydd llygredd aer, ac ymddengys bod hyn, rywsut, yn cael ei ystyried yn normal, yn anochel efallai. Gadewch inni gyferbynnu hynny â'r mesurau sydd wedi'u rhoi ar waith yn hollol briodol i liniaru lledaeniad Coronafirws. Yn yr achos hwn, mae buddiannau diwydiant, yr economi, yn eilradd, yn hollol briodol, i'r flaenoriaeth o gyfyngu ar y bygythiad real iawn i iechyd y cyhoedd. Ond o ran problemau amgylcheddol sy'n fygythiad mawr i iechyd y cyhoedd—y newid yn yr hinsawdd yw'r un mawr amlwg yma—ac mae graddau’r methiant i weithredu yn siarad cyfrolau. 

Y pwynt yw: gadewch inni ddychmygu pe baem yn ystyried bod llygredd yn fygythiad llawn mor ddifrifol â firws. Rwy’n credu y byddem yn datrys y broblem bron dros nos. Ond yn lle hynny, nid ydym yn gweld y newid diwylliant sydd ei angen arnom mewn nifer o feysydd—yn y system gynllunio, mewn prosesau cyllidebu ac agweddau ehangach o fewn y Llywodraeth—sy'n awgrymu ein bod lawn mor o ddifrif ynglŷn â hyn ag y dylem fod. Mae'n dal i ymddangos yn rhy aml fel pe bai gwrthdaro rhwng adrannau economi, dyweder, a phawb arall, sy'n ystyried llygredd yn gam angenrheidiol o dwf economaidd, rywsut. Yn sicr, os nad ydym ar ben draw'r ffordd honno o feddwl, rydym yn prysur agosáu ato.

Fe ddof i ben gyda'r dyfyniad hwn o adroddiad diweddar yn y Lancet ar lygredd:

Profwyd bod yr honiad fod rheoli llygredd yn llesteirio twf economaidd... yn anghywir dro ar ôl tro.

Mewn gwirionedd mae llygredd yn costio i'r economi mewn cynhyrchiant a gollir a gwariant ar ganlyniadau hynny. Yn anffodus, mae'r diwydiannau sy'n gyfrifol am lygredd hefyd yn effeithiol iawn gyda'u cysylltiadau cyhoeddus, gan lobïo a dwyn pwysau ar y cyfryngau i greu'r argraff fod rheoli llygredd yn ddrwg i dwf. Ond mae astudiaethau o effaith rheoliadau aer glân yn yr Unol Daleithiau'n awgrymu fel arall.

Yn y bôn, rydym yn gwybod, onid ydym, fod yn rhaid i ni newid. Rydym yn gwybod, does bosibl, Lywodraeth Cymru, fod yn rhaid gweithredu a bod angen Deddf arnom. Does bosibl nad yw'n bryd bellach inni roi'r gorau i'n caethiwed i aer gwael.