8. Dadl Plaid Cymru: Llygredd Aer

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 5 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 4:50, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Mae iechyd cyhoeddus yn rhedeg drwy'r ddogfen ymgynghori 'Cynllun Aer Glân i Gymru'. Nid siarad yn unig am leihau allyriadau carbon a wna, nid sôn yn unig am effaith ar safonau amgylcheddol a wna; mae hefyd yn sôn am ansawdd bywyd, ac mae'n sôn am atal salwch sy'n cyfyngu ar fywyd, a marwolaeth. Felly, yn sicr ceir edefyn yn y cynllun hwnnw sy'n cyd-fynd â'r cynnig, ac mae'r cynnig ei hun yn cydnabod yn glir yr effaith ar fywyd a'r angen i roi sylw i'r mater, ac rwy'n meddwl bod y Gweinidog ei hun yn debygol o ddweud wrthym beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Deddf aer glân. Rwy'n optimistaidd ynglŷn â hynny.  

Y mater arall yw'r dyfyniad am 2,000 o farwolaethau'r flwyddyn. Nid yw mor llwm â hynny yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru—neu nid yw mor syml â hynny. Mae dulliau presennol y Pwyllgor ar Effeithiau Meddygol Llygryddion Aer yn ystyried y cymysgedd o lygryddion mewn aer sy'n nodi gostyngiad i ddisgwyliad oes ac mae modd creu swm cyfanredol ohonynt wedyn i ystod o rhwng 1,000 a 1,400 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru. Felly, nid yw mor syml â dweud y bydd 2,000 o bobl y flwyddyn yn marw o ganlyniad i lygredd aer; mae'n fesur cyfanredol sy'n seiliedig ar ddisgwyliad oes, sydd ynddo'i hun yn dangos pa mor anodd yw mesur effeithiau ansawdd aer a'r ffaith nad yw'n wyddor fanwl ar hyn o bryd.

Daw hynny'n ôl at rywbeth a ddywedodd Rhun ap Iorwerth: mae angen i ni fod yn well am fonitro effeithiau ansawdd aer. Mae monitro yn rhywbeth y gellir ac y mae'n rhaid ei wneud yn fwy trylwyr. P'un a ellir ei wneud yn barhaus y tu allan i ysgolion—. Rhoddaf enghraifft i chi. Pan oeddwn yn gynghorydd, yn fy ward gyngor, cafodd ansawdd aer ei fonitro gennym dros gyfnod o chwe mis. Roedd y gost yn enfawr; roedd cost enfawr i fonitro ansawdd aer. Rwy'n credu mai'r hyn y mae angen i chi ei ystyried yw'r ffordd orau o ddefnyddio adnoddau yn yr ardaloedd lle mae'r risg fwyaf. Felly, Llyr, yr ardal yn eich rhanbarth y sonioch chi amdani, mae honno'n ardal sy'n addas ar gyfer monitro ansawdd aer, ac mae angen inni ystyried yr ardaloedd hynny a modelu'n briodol wedyn.

Rwy'n meddwl, mewn gwirionedd, pan fyddwch chi wedi monitro—nid mater o fonitro'n unig yw hyn, ond y camau rydych chi'n mynd i'w cymryd, a chredaf mai dyna lle mae'r ddadl yn awr: pa gamau a gymerwch? Ac nid wyf yn meddwl ei fod yn fater o a ydym am gael Deddf aer glân, ond beth y mae'r Ddeddf aer glân yn mynd i'w wneud. Credaf mai dyna yw'r cwestiwn allweddol, a dyna ddylai rhan adeiladol y ddadl hon fod: beth y mae'r Ddeddf aer glân yn ceisio'i gyflawni?

Wel, mae Deddf yr Amgylchedd 1995 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio cynllun rheoli ansawdd aer lleol. Y broblem yw ei fod yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol nodi problemau wrth weithio gydag eraill ac mae'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gynhyrchu cynlluniau gweithredu, ond dyna ni; nid yw'n mynnu,  wedyn, fod gweithredu'r camau hynny'n cael ei fonitro a'i graffu gan wleidyddion nac unrhyw un arall. Felly, mae yna broblemau gyda hynny y gall Deddf aer glân fynd i'r afael â hwy.

Mae angen ystyried y cyd-destun lleol. Os ydym yn cael trothwyon caeth, mae cyd-destun yn hanfodol. Os oes gennym drothwyon caeth, yna gall y trothwyon hynny fod yn fwyaf effeithiol mewn ardaloedd lle mae mwy o bobl agored i niwed, ond os ydych yn gaeth iawn ar draws ardal ddaearyddol enfawr, mae'n creu problemau o ran y gallu i gyflawni. A thrwy gamau 1 a 2 o'r Bil, rwy'n meddwl bod angen trafodaeth ynghylch y gallu hwnnw i gyflawni.    

Ac yn olaf, rhai o'r materion ymarferol a allai fod yn ddiffygion yn y camau gweithredu presennol sy'n cael eu hargymell y tu allan i Ddeddf, ac y bydd angen i Ddeddf fynd i'r afael â hwy'n glir iawn. Mae cyrraedd y gwaith yn anodd tu hwnt os ydych yn byw y tu allan i Gaerdydd; mae cyrraedd y gwaith yn hynod o anodd. Nid yw pobl ar hyn o bryd yn ymddiried mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus; mae'n anodd iawn ymddiried ynddo. Rwyf eisoes wedi dweud yn y Siambr hon am y pwyllgor a fethais bythefnos yn ôl a theimlo digofaint y Cadeirydd sy'n eistedd o fy mlaen am fethu'r pwyllgor. Bu'n rhaid i mi erfyn ar Stagecoach i redeg bws o Fargoed i Ysbyty Brenhinol Gwent—bu'n rhaid i mi erfyn arnynt. Bu'n rhaid i mi erfyn ar Stagecoach i adfer bws dros dro i ysbyty'r Mynydd Bychan, a beth am ysbyty'r Grange? Sut beth fydd trafnidiaeth gyhoeddus i ysbyty'r Grange? Mae cwestiynau ynglŷn â hyn sy'n gofyn am fwy na Deddf aer glân; mae angen Bil dadreoleiddio bysiau ac mae angen Deddf llywodraeth leol ac yn ffodus, rydym yn gweld y Llywodraeth yn gweithredu ar hynny.    

Yn olaf, hoffwn sôn am Ysgol Twyn yn fy etholaeth. Mae Aneira Luff yn ddisgybl yn Ysgol Twyn, ac mae hi wedi rhoi camau ar waith drwy ysgrifennu at y pennaeth, Lee Thomas, sydd wedyn wedi darparu ei llythyr ar gyfer y rhieni i ofyn iddynt beidio â chadw injan eu ceir i redeg y tu allan i'r ysgol. Mae Aneira Luff wedi gwneud hynny—disgybl yn yr ysgol. Credaf fod honno'n ffordd hynod bwerus o gyfleu'r angen i leihau allyriadau o geir i'r aer y tu allan i ysgolion. Mae Jenny Rathbone wedi dweud y gweddill, ac rwy'n cytuno. Ac rwy'n meddwl, gyda hynny—Lywydd, rydych chi'n edrych arnaf yn awr—fod fy amser ar ben. Felly, rwy'n mynd i orfod dod i ben yn y fan honno.