Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 5 Chwefror 2020.
Rwy'n credu bod galw cynyddol am Ddeddf aer glân gan fod mwy o bobl yn ymwybodol o'r niwed y maent yn ei wneud i'w hysgyfaint, ac yn enwedig i fywydau eu plant. Mae un o'r meithrinfeydd yn fy etholaeth i yn sefydliad rhagorol ym mhob agwedd, sefydliad sy'n canolbwyntio ar y plentyn unigol, heblaw'r ffaith ei bod wedi'i lleoli mewn ardal lle mae'r aer wedi'i lygru i raddau sy'n beryglus. Mae gan hanner y plant broblemau resbiradol, a dyna pam y buaswn yn ei chael yn anodd iawn yn foesol i argymell y feithrinfa honno i unrhyw un, am fy mod yn gwybod beth y mae'n ei wneud i ysgyfaint y plant hynny. Mae'n rhywbeth sydd y tu hwnt i allu darparwyr y feithrinfa i'w newid, gan nad oes ganddynt adnoddau i symud.
Ond mae'n eironig fod yna ysgol gynradd y drws nesaf i'r feithrinfa lle mae rhieni'n mynnu codi eu plant yn y car, am fod ganddynt hawl i wneud hynny, ac maent yn ychwanegu at broblem sydd eisoes yn annerbyniol. Rwy'n gweld nad yn yr ardal benodol honno'n unig y mae'n digwydd. Mewn ardaloedd eraill lle ceir lefelau uchel iawn o lygredd, lle ceir ysgolion, mae rhieni'n mynnu mynd â'u plant at giât yr ysgol. Yn syml, maent yn gwadu'r ffaith eich bod yn peri i'ch plentyn ddod i gysylltiad â mwy o lygredd drwy eu danfon i'r ysgol mewn car nag y byddech pe baech yn cerdded ar hyd y ffordd neu'n mynd ar sgwter neu'n beicio. Sawl gwaith y mae'n rhaid inni ailadrodd hyn? Rydych chi'n peryglu iechyd eich plentyn drwy wneud hyn.
Rwy'n falch iawn o weld bod y gwelliannau a gynigiwyd gan y Llywodraeth yn cryfhau'r cynnig. Credaf ei fod yn dangos lefel yr ymrwymiad sydd gan y Llywodraeth i weithredu ar hyn, oherwydd ni allwn barhau fel hyn. Rwyf am ofyn un peth mewn perthynas â chludo plant i'r ysgol, sef bod gwir angen creu parthau gwahardd cerbydau o amgylch ein hysgolion, (a) er mwyn gorfodi pobl i ddysgu sut i gerdded eto, a (b) er mwyn sicrhau nad yw llygredd cerbydau yn mynd i mewn i'r iard chwarae lle mae'r plant yn chwarae yn ystod eu hamser egwyl. Credaf fod hynny'n bendant yn rhywbeth y gallem ei wneud.
Ac yn ychwanegol at hynny, fel yr awgryma'r cynnig, dylem gael cyfarpar monitro llygredd y tu allan i bob ysgol ac ysbyty er mwyn inni wybod faint yn union o lygredd y mae pobl yn agored iddo yn y mannau y mae'n rhaid mynd iddynt. Felly, rwy'n cefnogi'r cynnig ac rwy'n cefnogi'r teimlad sy'n sail iddo yn fawr.