8. Dadl Plaid Cymru: Llygredd Aer

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 5 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 5:04, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gennyf dorri ar draws, ond un o'r pethau—mae'n gwneud y pwynt am gerbydau’n segura—un o'r pwyntiau a glywais hefyd gan swyddogion iechyd cyhoeddus yw nad cerbydau’n segura yn unig yw’r broblem; gallai’r weithred o ddiffodd eich cerbyd tra’n aros y tu allan i ysgol fod yr un mor llygrol pan fyddwch yn ei ailgychwyn eto. Felly, mewn llawer o achosion, waeth i chi ei adael i segura fwy na’i ddiffodd a’i ailgychwyn; mae'n dibynnu am ba hyd rydych chi'n ei adael i segura. Felly, mewn gwirionedd, y peth mwy effeithiol i’w wneud, fel y dywedodd Jenny Rathbone, yw peidio â gadael ceir yn agos at yr ysgol yn y lle cyntaf.