Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 5 Chwefror 2020.
Y pwynt y buaswn yn ei wneud—. Wyddoch chi, wrth wraidd hyn, mae cannoedd o bobl, miloedd o bobl mae'n debyg—dros filiwn o bobl mewn gwlad fel Tsieina—yn marw bob blwyddyn o ganlyniad uniongyrchol i lygredd aer, ac os nad yw hynny'n rhywbeth sy'n ddigon enbyd i'n sbarduno i weithredu, beth allai fod yn ddigon i'n hysgogi? Mae Deddf aer glân, yn ein barn ni yn sicr, yn rhan greiddiol o'r hyn sydd ei angen arnom fel set o arfau i'n symud yn ein blaenau.