8. Dadl Plaid Cymru: Llygredd Aer

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 5 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:29, 5 Chwefror 2020

Ac, wrth gwrs, rydych chi'n hollol iawn yn hynny o beth. Ond rhwystredigaeth nad oes yna ddigon o weithredu rŵan wedi bod sydd tu ôl i'r ffaith ein bod ni wedi cyflwyno'r cynnig yma i'r Cynulliad heddiw. Heb os, er bod yna levers eraill a all gael eu defnyddio rŵan ac yn y dyfodol, mi ydym ni'n grediniol bod yn rhaid i Ddeddf aer glân fod wrth galon yr hyn rydym ni'n ei wneud i lanhau'r awyr y mae'n plant ni yng Nghymru yn ei anadlu, ac, yn hynny o beth, dwi'n eich annog chi i gefnogi ein cynnig ni heddiw.