8. Dadl Plaid Cymru: Llygredd Aer

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 5 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:24, 5 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno â chi, ac mae arfau deddfwriaethol eraill gennym a all helpu i fynd â ni i'r fan lle rydym am fynd, ac mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn un o'r rheini. Yr hyn a fyddai gennym drwy'r Ddeddf aer glân hon yw ffocws go iawn ar waith penodol sy'n rhaid inni ei wneud er mwyn glanhau'r aer a anadlwn, ac mae'n rhaid iddi fod yn ddeddfwriaeth a fyddai'n bendant â dannedd ac a fyddai'n galw am weithredu ar lawr gwlad.