Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 5 Chwefror 2020.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt da iawn ac yn sicr byddai gennyf fi, neu fy nghyd-Weinidog Ken Skates, ddiddordeb mawr mewn cael y sgwrs honno.
Ni fydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliannau 4 a 5 gan y Ceidwadwyr, ond mae hyn ar y sail eu bod yn drysu rhwng materion allweddol ac y byddent yn gwanhau, yn hytrach na chryfhau, y mesurau sydd angen inni eu cymryd. Cefnogwn y farn y dylai deddfwriaeth newydd fod yn seiliedig ar ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd. I wneud hyn, byddwn yn trosi egwyddorion y canllawiau yn y Ddeddf, yn hytrach na mewnosod y canllawiau eu hunain ar wyneb y Bil. Bydd hynny'n sicrhau bod y targedau a osodwn yng Nghymru yn cael eu cynllunio yn ôl y safonau uchaf yn fyd-eang.
Yn yr un modd, rydym yn cefnogi'r hawl i anadlu, ond ein cyfrifoldeb ni yw troi hyn yn ddeddfwriaeth sy'n benodol ac y gellir ei gweithredu. Felly, fel y dywedais, byddwn yn gwrthwynebu'r gwelliannau hynny, ond byddem yn annog yr Aelodau i edrych ar y mesurau rydym eisoes wedi'u hargymell yn ein cynllun aer glân—a chyfeiriodd sawl Aelod at y ddogfen—sy'n fwy caeth a phenodol. Mae'r ymgynghoriad yn agored tan 10 Mawrth, Lywydd, ac mae'n disgrifio camau gweithredu sy'n gysylltiedig â phob pwynt yn y cynnig gwreiddiol a mwy. A hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddarparu manylion am rai o'r camau rydym yn eu cymryd yn y meysydd hyn yn ystod y misoedd nesaf, wrth i ni weithio tuag at greu Deddf aer glân i Gymru.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno mesurau i leihau llygredd aer o draffig ar rwydwaith cefnffyrdd Cymru. Mae'r arwyddion cynnar yn dynodi bod y rhain yn cael effaith gadarnhaol, ond yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad, a fydd yn cynnwys tystiolaeth o effeithiolrwydd ac argymhellion ynghylch unrhyw gamau pellach y mae angen inni eu cymryd i leihau llygredd a grëir a'r effaith ar iechyd pobl. Ar yr un pryd, byddaf yn cyhoeddi fframwaith parth aer glân i Gymru yn fuan i amlinellu sut y credwn y dylai parthau aer glân gael eu gweithredu yng Nghymru. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, yn cyhoeddi adroddiad ar wahân hefyd ar gostau a manteision cyflwyno taliadau i ddefnyddwyr ffyrdd ar sail ranbarthol er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio dull teg a chyson o leihau cysylltiad pobl â llygredd aer o draffig ffyrdd. Ac yn ogystal, rydym yn bwriadu cyhoeddi strategaeth gwefru cerbydau trydan ar gyfer Cymru yn 2020, sy'n nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i gynyddu'r ddarpariaeth o seilwaith trydan ar gyfer gwefru cerbydau.
Bydd y cynlluniau hyn yn cyfrannu at strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru, sydd i'w chyhoeddi eleni hefyd. Bydd y strategaeth yn egluro sut y bwriadwn wireddu ein huchelgais ar gyfer system drafnidiaeth carbon isel, gan gynnwys creu fflyd o fysiau a thacsis carbon isel erbyn 2028. Yn ogystal â darparu manteision o ran lleihau ein hallyriadau carbon, bydd hyn hefyd yn arwain yn uniongyrchol at leihau llygredd aer yn sylweddol.
Yn ogystal â'n hymdrechion i fynd i'r afael â llygredd aer sy'n deillio o draffig ffyrdd, rydym yn rhoi amrywiaeth eang o fesurau eraill ar waith i leihau allyriadau ac yn rhoi ystyr i hawl dinasyddion Cymru i anadlu. Eleni, byddwn yn diweddaru gwefan Ansawdd Aer yng Nghymru i'w gwneud yn fwy rhyngweithiol ac yn haws i'w defnyddio, er mwyn annog mwy o ddinasyddion Cymru i ddod o hyd i wybodaeth am ansawdd aer yn eu hardal. Rydym hefyd yn bwriadu adeiladu ar fenter gwyddoniaeth dinasyddion y Dreigiau Ifanc lle rydym wedi cynnwys plant a phobl ifanc yn y broses o wneud cyfraniad pwysig i'r sylfaen dystiolaeth ar lygredd aer, ar yr un pryd â rhoi cyfle ymarferol iddynt ddysgu mwy am y wyddoniaeth.
Ar hyn o bryd rydym yn y broses o atgyfnerthu ein gallu i ymateb i argyfwng ansawdd aer, gan weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, y gwasanaeth tân a'r Swyddfa Dywydd, fel ein bod yn gallu ymateb i fwy o ddigwyddiadau yn gyflymach, gan roi gwybodaeth gywirach i ddinasyddion mewn achosion o lygredd aer difrifol.
Eleni, byddwn yn cyhoeddi canllawiau cynllunio newydd gyda nodyn cyngor technegol wedi'i ddiweddaru ar ansawdd aer a seinwedd i gymryd lle TAN 11 ar sŵn. Bydd hyn yn sicrhau bod cynllun datblygiadau newydd yn mynd i'r afael â llygredd aer cyn i broblemau godi.
Ym mis Mawrth, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi datganiadau ardal, carreg filltir allweddol yng ngweithrediad Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Drwy ddiffinio'r cyfleoedd a'r heriau allweddol ar gyfer cryfhau cydnerthedd ecosystemau mewn gwahanol rannau o Gymru, bydd y datganiadau ardal yn ein galluogi i sicrhau'r manteision gorau posibl i natur ar yr un pryd â chael effaith gadarnhaol ar ansawdd aer ac agweddau eraill ar ein lles.
Felly, dim ond ychydig o enghreifftiau yw'r rhain o'r camau rydym yn eu rhoi ar waith yn awr i wella ansawdd aer yng Nghymru. Ym mhob achos, gallai fod cyfleoedd i gryfhau effeithiolrwydd y mesurau hyn drwy ein Deddf aer glân, ac rwy'n gobeithio y bydd pob plaid yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw i ddangos ein penderfyniad cyfunol ar sail drawsbleidiol i roi camau pendant ar waith i leihau llygredd aer yng Nghymru, a rhoi gwir ystyr i hawl dinasyddion Cymru i anadlu.