Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 5 Chwefror 2020.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, heblaw fod tri Aelod eisiau i fi symud i ganu'r gloch. Heb hynny, felly, mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig deddfwriaethol gan Aelod ar bwyntiau gwefru cerbydau trydan. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw David Melding. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, 11 yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.