Part of the debate – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 11 Chwefror 2020.
Fyddech chi'n cytuno â fi, Weinidog, fod yr erydu sydd wedi bod ar gyllidebau awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn rhannol gyfrifol am y sefyllfa rŷn ni'n ffeindio ein hunain ynddi? Oherwydd, wrth gwrs, pethau fel glanhau afonydd a culverts ac yn y blaen sydd yn cael eu torri pan nad yw'r adnoddau dynol a'r cyllidebau yn eu lle. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn ein hatgoffa ni o bwynt dwi wedi ei godi yn fan hyn ddegau o weithiau yn y misoedd diwethaf, ynglŷn â'r trajectory anghynaladwy yma sydd gennym ni ar hyn o bryd, lle mae awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru â disgwyliad arnyn nhw i wneud mwy a mwy—trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, trwy Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 ac yn y blaen—tra ar yr un pryd, wrth gwrs, mae eu cyllidebau nhw yn mynd yn llai ac yn llai. Felly, mae'n rhaid eich bod chi'n cydnabod bod y trajectory yna yn anghynaladwy, ac mae rhai o'r canlyniadau efallai, fel rŷn ni wedi ei weld yn y dyddiau diwethaf yma, yn anochel os ŷn ni'n mynd i barhau ar y trajectory yna. Gaf fi ofyn, felly, pa adnoddau ychwanegol y byddwch chi yn eu gwneud ar gael i awdurdodau lleol, yn enwedig y rhai sydd wedi cael eu heffeithio yn uniongyrchol gan ddigwyddiadau'r dyddiau diwethaf yma, ynghyd â Chyfoeth Naturiol Cymru?
Fyddech chi'n cytuno â fi hefyd fod yn rhaid inni newid y naratif? Mae pobl yn aml iawn yn dweud, 'O, mae'n costio gormod i ni fuddsoddi mewn atal llifogydd.' Mae'n rhaid inni newid y naratif, oherwydd y gost ormodol yw canlyniad y dinistr. Felly, buddsoddiad yw buddsoddi mewn mesurau i atal llifogydd, er mwyn arbed pres o beidio â gorfod delio â'r canlyniadau yn y pen draw. Felly dwi eisiau gwybod beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i newid y naratif yna, er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth allan yn fanna inni fynd i'r afael â newid hinsawdd, i'r raddfa y dylem ni fod yn ei wneud.
Ac yn olaf, un o'r afonydd yn Nyffryn Conwy a wnaeth orlifo oedd Afon Cae Person, a'r afon honno, wrth gwrs, a effeithiodd ar Ysgol Dyffryn Conwy. Roedd yr ysgol ar gau ddoe; mae'r bloc mathemateg a thechnoleg yn dal i fod ar gau heddiw, ar gyfer glanhau a dad-gontamineiddio. Ysgol menter cyllid preifat yw Ysgol Dyffryn Conwy; nawr, mae'r cyngor, felly, wedi gwrthod cymryd cyfrifoldeb dros y glanhau a'r clirio, ac, o beth rwy'n ei ddeall, doedd Sodexo—y cwmni a fyddai â chyfrifoldeb—ddim wedi troi lan ddoe, ac, o ganlyniad, gofalwyr yr ysgol sydd wedi gorfod delio â'r ymdrech gychwynnol i lanhau. Felly, a allwch chi fy sicrhau i fod cwmnïau fel Sodexo yn gwbl glir am eu cyfrifoldebau, ac yn mynd i fod yn ymateb fel y dylen nhw? A pha sicrwydd allwch chi ei roi i fi fod yna sefydliadau ac adeiladau PFI eraill yng Nghymru sydd ddim yn mynd i ffeindio eu hunain o dan yr un anfantais yn y dyfodol?